Richard Rogers

Oddi ar Wicipedia
Richard Rogers
Ganwyd23 Gorffennaf 1933 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Architectural Association School of Architecture
  • Yale School of Architecture
  • St John's School, Leatherhead
  • Kingswood House School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, cynllunydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Adnabyddus amKleanthis Vikelidis Stadium, Millennium Dome, Nittele Tower, Centre Georges Pompidou, Lloyd's building, European Court of Human Rights building, adeilad y Senedd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
MudiadPensaernïaeth Fodern Edit this on Wikidata
TadNino Rogers Edit this on Wikidata
MamDada Gelringer Edit this on Wikidata
PriodRuth Rogers, Su Rogers Edit this on Wikidata
PlantRoo Rogers Edit this on Wikidata
Gwobr/auPritzker Architecture Prize, Medal Aur Frenhinol, Praemium Imperiale, Golden Lion, Auguste Perret Prize, Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, Honorary doctorate from university of Florence, Marchog Faglor, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant, Ysgoloriaethau Fulbright Edit this on Wikidata

Pensaer Eidalaidd-Brydeinig oedd Richard George Rogers, Arglwydd Rogers o Riverside (23 Gorffennaf 193318 Rhagfyr 2021).[1]

Ganwyd Richard George Rogers yn Florence (Tuscany) i deulu Eingl-Eidalaidd. Roedd ei dad, William Nino Rogers (1906–1993), yn gefnder i'r pensaer Eidalaidd Ernesto Nathan Rogers. Symudodd ei gyn-deidiau o Sunderland i Fenis tua 1800, gan fudo yn ddiweddarach i Trieste, Milan a Florence. Yn 1939 penderfynodd ei dad ddod nôl i Loegr.[2]

Roedd Rogers yn fwyaf enwog am ei waith ar Ganolfan Georges Pompidou ym Mharis, adeilad Lloyd's a'r Millennium Dome yn Llundain, adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, ac adeilad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg. Enillodd wobr Medal Aur RIBA, Medal Thomas Jefferson, Gwobr Stirling RIBA, Medal Minerva a'r Wobr Pritzker. Roedd yn Uwch Bartner yng nghwmni penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners, a adwaenid yn gynt fel y Richard Rogers Partnership.

Ymddeolodd ym Medi 2020, yn 87 mlwydd oed.[3] Bu farw brynhawn Sadwrn, 18 Rhagfyr 2021.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Richard Rogers: Millennium Dome architect dies aged 88 (en) , BBC News, 19 Rhagfyr 2021.
  2. Richard Rogers. Canongate Books. 7 September 2017. ISBN 9781782116943. Cyrchwyd 6 September 2017.
  3. Richard Rogers retires: Pompidou and Dome architect helped shape our cities , BBC Wales News, 2 Medi 2020.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.