Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
Rhydychen
Mathtref sirol, tref goleg, ardal ddi-blwyf, dinas Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Rhydychen
Poblogaeth152,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 g Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantFrithuswith Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Rydychen
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd45.59 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys, Afon Cherwell Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBanbury Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.75°N 1.26°W Edit this on Wikidata
Cod postOX1, OX2, OX3, OX4, OX33, OX44, OX postcode area Edit this on Wikidata
GB-OXF Edit this on Wikidata
Map
Eglwys y brifysgol

Dinas yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Rhydychen (Saesneg: Oxford, hen enw Oxenaford).[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas Rhydychen. Hi yw tref sirol Swydd Rydychen.

Yng nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 134,248.

Llifa Afon Cherwell ac Afon Tafwys drwy ganol Rhydychen gan gyfarfod i'r de o ganol y ddinas. Fodd bynnag, yn Rhydychen ac am tua 10 milltir (16 km) a'r ardal gyfagos, gelwir Afon Tafwys yn "Isis".

Saif sy tua 60 milltir i'r gogledd-orllewin o Lundain.

Mae gan y ddinas ddwy brifysgol. Prifysgol Rhydychen yw'r brifysgol hynaf yn Lloegr; ymhlith y Cymry fu yno oedd Owain Glyndŵr ac O. M. Edwards. Mae Prifysgol Brookes (Oxford Polytechnic yn gynt) yna hefyd. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig i'r economi lleol — cynhyrchir y BMW Mini yn Cowley yn ne-ddwyrain y ddinas — ond lleihawyd y cynnyrch ers y 1970au.

Mae hanes Rhydychen yn estyn yn ôl i gyfnod y Sacsoniaid. Ganwyd John, brenin Lloegr, yn Rhydychen. Defnyddiodd Brenin Siarl I Rydychen fel ei lys yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Mae'r adeiladau yn Rhydychen yn adlewyrchu pob cyfnod pensaernïol yn hanes Lloegr ers dyfodiad y Sacsoniaid, gan gynnwys y Radcliffe Camera o ganol y 18g. Mae adeilad hynaf y ddinas, sef eglwys Mihangel Sant, yn dyddio o 1040. Adnabyddir Rhydychen fel y "city of dreaming spires", term a fathwyd gan y bardd Matthew Arnold i ddisgrifio pensaernïaeth adeiladau prifysgol Rhydychen.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 19 Mai 2020

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.