Rheilffordd Nantlle

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Nantlle
Wagen lechi o Reilffordd Nantlle, yn awr yn Amgueddfa Llechi Cymru, Llanberis
Mathcwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1828 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1828 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru

Roedd Rheilffordd Nantlle yn reilffordd gul (3 troedfedd a chwech modfedd) a adeiladwyd i gario llechi o nifer o'r chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle i'r porthladd yng Nghaernarfon.

Pasiwyd deddf yn y Senedd i awdurdodi adeiladu'r rheilffordd yn 1825, a Robert Stephenson (yr hynaf), brawd George Stephenson, oedd yn gyfrifol am oruchwylio peth o'r gwaith, wedi i gynlluniau'r peiriannydd camlesi Roger Hopkins brofi'n anfoddhaol. Agorodd yn 1828, gyda wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau. Er mai ar gyfer cario llechi y bwriadwyd y lein, bu hefyd ar brydiau yn cario teithwyr rhwng Pen-y-groes a Chaernarfon.

Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd Sir Gaernarfon yn 1865 ac yn ddiweddarach Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNER). Ail adeiladwyd y trac rhwng Caernarfon a Phenygroes yn 1867 fel rheilffordd o'r lled safonol, i ganiatau rhedeg trenau i Afon Wen. Daeth y darn rhwng Talysarn a Phenygroes yn reilffordd o led safonol yn 1872. Roedd y rheilffordd oedd yn cysylltu Talysarn a'r chwareli yn parhau fel tramffordd, gyda cheffylau yn tynnu'r wageni hyd 1963.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, 1: The West (Oakwood Press)