Rhanbarthau daearyddol Groeg

Oddi ar Wicipedia

Prif ranbarthau daearyddol a hanesyddol Gwlad Groeg yw rhanbarthau daearyddol Groeg (Groeg: γεωγραφικά διαμερίσματα). Cyn diwygio gweinyddol 1987 roeddent hefyd yn israniadau rhanbarthol gweinyddol Gwlad Groeg; fe'u disodlwyd wedyn fel unedau gweinyddol gan ranbarthau gweinyddol newydd, y periffereiau (Groeg: περιφέρειες). Serch hynny, mae'r naw rhanbarth daearyddol traddodiadol – chwech ar y tir mawr a thri grŵp ynys – yn cael eu defnyddio'n eang yn answyddogol.

Dyma'r naw rhanbarth:

  1. Thrace
  2. Macedonia
  3. Thessalia
  4. Epiros
  5. Canolbarth Groeg
  6. Peloponnesos
  7. Ynysoedd Aegeaidd
  8. Ynysoedd Ionaidd
  9. Creta
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato