Rhagod

Oddi ar Wicipedia

Ymosodiad dirybudd o safle guddiedig yw rhagod (Saesneg: ambush); gall hefyd olygu 'atalfa' neu 'rwystr'. Gall y cuddfan fod yn nodwedd naturiol e.e. coedwig, neu'n guddliw ar y person sy'n paratoi i ymosod.

Er enghraifft, yng Nghwnsyllt, yng ngantref Tegeingl (heddiw yn Sir y Fflint), gosododd Owain Gwynedd, Tywysog Cymru, ragod ar Harri II, brenin Lloegr.[1]

Yn aml, mae'r elfen o ymosodiad dirybudd, sydyn, yn un pwysig mewn tactegau milwrol, ac fe'i defnyddiwyd yn aml gan y Cymry yn yr oesoedd canol, fel rhan o'u tactegau 'taro a ffoi'.

Geirdarddiad a defnydd cynnar[golygu | golygu cod]

Nid oes sicrwydd beth yw tarddiad y gair, ond fe'i defnyddiwyd gan Cynddelw Brydydd Mawr yn y 12g.[2]

Camp ragod aruod, arueityaw — ac aryf
Ac arhos heb gilyaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]