Queer

Oddi ar Wicipedia
Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yn draddodiadol mae'r gair Saesneg queer wedi golygu "rhyfedd" neu "anarferol", ond fe'i defnyddir yn aml erbyn heddiw mewn nifer o ieithoedd i gyfeirio at gymunedau hoyw, lesbiaidd, deurywiol, trawsryweddol, rhyngrywiol, ac anrhywiol.

Baner yr enfys, symbol o'r gymuned LHDT.

Mae defnydd y gair yn ddadleuol ar ôl newidiadau sylweddol yn ystod y can mlynedd diwethaf. Tua diwedd y 19g datblygodd, o olygu "rhyfedd" yn ei ystyr ehangach, i olygu rhywun a oedd yn gwyro oddi ar dybiaethau'r cyfnod am "normalrwydd" rhywiol, ac fe'i cyfeiriwyd yn benodol at ddynion hoyw neu ferchetaidd. Mewn ymgais i ddinerthu grym negyddol y gair fel ymosodiad arnynt, aeth ymgyrchwyr hoyw yn chwarter olaf yr 20g ati i adfeddiannu'r gair a'i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol, gan uniaethu â'r label queer, a'i ddefnyddio fel term mantell i ddisgrifio unrhyw gyfeiriadedd a hunaniaeth rywiol a/neu hunaniaeth ryweddol nad yw'n cydymffurfio â chymdeithas heteronormadol. Fodd bynnag, mae rhai yn credu ei fod yn parhau i fod yn derm rhy sarhaus i'w ddefnyddio mewn cyd-destun cadarnhaol.

Mewn ymgais i ganfod gair cyfatebol i'w ddefnyddio yn y Gymraeg, aeth rhai ymgyrchwyr hoyw yng Nghymru ati i ddefnyddio'r label hyfryd i uniaethu ag ef. Gan mai bathiad bwriadol ydyw yn yr ystyr honno, nid yw hyfryd yn Gymraeg yn cyfleu'r tyndra hanesyddol sydd ynghlwm â queer yn Saesneg; yn hytrach, ei ddiben yw cyfleu ochr gadarnhaol y gair Saesneg mewn cymunedau LHDT Cymraeg.