Protestiadau hawliau mewnfudwyr yr Unol Daleithiau (2006)

Oddi ar Wicipedia
Miloedd o bobl yn protestio dros hawliau mewnfudwyr yn Nashville, Tennessee ar 29 Mawrth, 2006.

Yn 2006, cynhaliwyd protestiadau gyda miliynau o bobl o blaid diwygio deddfau cyfredol yr Unol Daleithiau dros fewnfudo. Dechreuodd y protestiadau fel ymateb i'r ddeddfwriaeth arfaethedig H.R. 4437, bydd yn cynyddu'r cosbau am fewnfudo anghyfreithlon ac yn labelu mewnfudwyr anawdurdodedig ac unrhyw un a gynorthwyodd nhw i ddod i mewn i neu aros yn yr Unol Daleithiau fel ffeloniaid. Fel rhan o'r ddadl fwy am fewnfudo, bu'r mwyafrif o'r protestiadau nid dim ond yn galw am atal y mesur, ond hefyd am lwybr i gyfreithloni'r rhai sydd wedi dod i mewn i'r Unol Daleithiau yn anghyfreithlon a llai o oediadau yng Ngwasanaethau Mewnfudo'r wlad.

Bu'r cynulliad mwyaf ar draws y wlad ar 10 Ebrill, 2006, mewn 102 o ddinasoedd ar draws y wlad. Amcangyfrifwyd i'r torfeydd mewn nifer o ddinasoedd rhifo rhwng 100 000 i dros 500 000 o bobl. Roedd bron pob gwrthdystiad yn heddychlon ac atynnwyd cryn sylw gan y cyfryngau, er bu ddadl dros symbolaeth wrth-Americanaidd honedig mewn rhai o'r protestiadau. Cynhaliwyd protestiadau ychwanegol ar Galan Mai a bu nifer o'r gwrthdystwyr y diwrnod hwnnw yn cario lluniau o'r chwyldroadwr Che Guevara ochr yn ochr â baneri Americanaidd. Ymunodd sosialwyr a mudiadau asgell-chwith eraill â'r gwrthdystwyr yn ogystal â rhai mudiadau asgell-dde a grwpiau crefyddol.