Prestatyn

Oddi ar Wicipedia
Prestatyn
Mathtref, cyrchfan lan môr, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.331°N 3.405°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000171 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ065825 Edit this on Wikidata
Cod postLL19 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map
Erthygl am y dref yw hon. Am y cwmwd canoloesol o'r un enw gweler Prestatyn (cwmwd).

Tref a chymuned ar arfordir gogleddol Sir Ddinbych, Cymru, yw Prestatyn.[1] Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, roedd hi'n rhan o Sir y Fflint. Mae gan y dref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Llwybr y Gogledd yn cychwyn/gorffen yn y dref.

Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Rhyl wrth droed y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Talacre a'r Gronant i'r dwyrain ac Allt Melyd a Diserth i'r de. Mae Caerdydd 206.3 km i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 32.2 km i ffwrdd.

Mae Prestatyn yn dref glan môr poblogaidd gyda thraeth braf sy'n estyniad o draeth enwog Y Rhyl. Gorwedd canol y dref fechan tua hanner milltir i mewn o'r traeth. Erbyn heddiw mae nifer o stadau tai newydd yno ac mae canran uchel o'r boblogaeth yn bobl wedi ymddeol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan James Davies (Ceidwadwyr).[3]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Tarddiad Hen Saesneg sydd i'r enw Prestatyn a'i ystyr yw 'fferm yr offeiriaid'.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio.

Bu'r Rhufeiniaid yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am blwm. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd Clawdd Offa yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod Llwybr Clawdd Offa yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld.

Bu'r llecyn ym meddiant Mersia am gyfnod yn yr Oesoedd Canol Cynnar, ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Yn yr Oesoedd Canol rhoddodd ei enw i gwmwd Prestatyn, rhan o gantref Tegeingl. Codwyd Castell Prestatyn gan un o arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 12g ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd.

Ond arosodd Prestatyn yn bentref bychan dinod tan ganol y 19g a datblygiad twristiaeth yn y rhan yma o ogledd Cymru gyda dyfodiad y rheilffordd.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Prestatyn (pob oed) (18,849)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Prestatyn) (2,751)
  
15.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Prestatyn) (9173)
  
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Prestatyn) (3,709)
  
44.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Atyniadau[golygu | golygu cod]

Y Stryd Fawr yn Mhrestatyn
Machlud dros y traeth

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Chwefror 2023
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Owen, Hywel Wyn; Gruffydd, Ken Lloyd (2017). Place-Names of Flintshire. Cardiff: University of Wales Press. t. 161. ISBN 1-78683-110-4. OCLC 966205096.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.