Prawf Turing

Oddi ar Wicipedia
Y "dehongliad safonol" o'r prawf Turing. Person C, yr holwr, sy'n cael y dasg o benderfynu pa berson - A neu B - sy'n gyfrifiadur a pha un yw'r bod dynol. Mae'r holwr wedi'i gyfyngu i ddefnyddio ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig wrth ddod i benderfyniad.[1]

Prawf o allu peiriant i arddangos ymddygiad deallus sy'n cyfateb i, neu'n ddiwahaniaeth i, ymddygiad bod dynol yw prawf Turing. Cafodd y prawf ei ddatblygu gan Alan Turing yn 1950. Cynigiodd Turing bod arfarnwr dynol yn dyfarnu sgyrsiau iaith naturiol rhwng bod dynol a pheiriant a oedd wedi'i ddylunio i gynhyrchu ymatebion dynol eu natur. Byddai'r arfarnwr yn ymwybodol bod un o'r ddau bartner yn y sgwrs yn beiriant, a byddai'r cyfranogwyr wedi'u gwahanu oddi wrth ei gilydd. Byddai'r sgwrs yn cael ei chyfyngu i sianel testun yn unig fel bysellfwrdd a sgrin fel na fyddai'r canlyniad yn dibynnu ar allu'r peiriant i gyflwyno'r geiriau ar lafar.[2] Os na all yr arfarnwr ddweud gyda sicrwydd pa un yw'r peiriant a pha un yw'r bod dynol, mae'r peiriant yn pasio'r prawf.[3] Nid yw canlyniadau'r prawf yn dibynnu ar allu i roi atebion cywir i gwestiynau, ond yn seiliedig ar debygrwydd yr atebion i'r rhai y byddai bod dynol yn eu rhoi.

Cafodd y prawf ei gyflwyno gan Turing mewn papur a gyhoeddodd yn 1950 o dan y teitl "Computing Machinery and Intelligence", tra oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Manceinion (Turing, 1950; p. 460).[4] Mae'n cychwyn trwy ofyn a yw peiriannau yn gallu 'meddwl'. Oherwydd bod 'meddwl' yn anodd i'w ddiffinio, mae Turing yn dewis cyfnewid y cwestiwn gydag un arall, sef: 'A oes cyfrifiaduron digidol dychmygus a fyddai'n gwneud yn dda yn y gem ddynwared?'[5] Mae'r cwestiwn hwn, yn ôl Turing, yn un sy'n gallu cael ei ateb. Mae gweddill y papur yn dadlau yn erbyn yr holl wrthwynebiadau i'w ddatganiad bod peiriannau yn gallu 'meddwl'.[6] Ers i Turing gyflwyno ei brawf, mae wedi bod yn ddylanwadol dros ben a'i feirniadu yn ogystal, ac mae wedi dod yn gysyniad pwysig yn athroniaeth deallusrwydd artiffisial.[7][8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Addaswyd y ddelwedd o Saygin, 2000.
  2. Awgrymodd Turing y teleargraffydd, un o'r unig systemau testun yn unig oedd ar gael yn 1950. (Turing 1950, p. 433)
  3. "Prawf Turing, on season 4, episode 3". Scientific American Frontiers (simple) (yn Saesneg). PBS. 1993–1994. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006.
  4. "The Turing Test, 1950". turing.org.uk. The Alan Turing Internet Scrapbook.
  5. (Turing 1950, p. 442) Nid yw Turing yn galw ei syniad yn "brawf Turing test", ond yn hytrach y "Gem Ddynwared", ond defnyddiwyd yr enw hwnnw mewn llenyddiaeth ddiweddarach i ddisgrifio fersiwn penodol o'r prawf. (Turing 1950, p. 442)
  6. Turing 1950, tt. 442–454
  7. Saygin 2000.
  8. Russell & Norvig 2003, tt. 2–3 and 948.