Powys Fadog

Oddi ar Wicipedia
Baner Powys Fadog

Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffudd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffudd Maelor.

Derbyniodd Gruffudd Maelor I gantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffudd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.

Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog[golygu | golygu cod]

Arfbais Powys Fadog
Arfbais Powys Fadog

Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.

Cantrefi a chymydau[golygu | golygu cod]

Sylwer nad arosodd pob un o'r cantrefi a chymydau hyn yn rhan o Bowys Fadog.