Postumus

Oddi ar Wicipedia
Postumus
Ganwyd3 g Edit this on Wikidata
Gâl Edit this on Wikidata
Bu farw269 Edit this on Wikidata
Mainz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddllywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
PlantPostumus the Younger Edit this on Wikidata

Marcus Cassianius Latinius Postumus oedd ymerawdwr cyntaf yr Ymerodraeth Alaidd o 259 hyd 268.

Nid oes llawer o wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar, ond ymddengys ei fod yn wreiddiol o Gâl, ac iddo ddod yn gadfridog yn y fyddin ac efallai yn rhaglaw Germania Inferior neu Germania Superior. Pan oedd yn ymerawdwr Rhufeinig Gallienus yn delio a phroblemau yn nwyrain yr ymerodraeth, gadawodd ei fab Saloninus yn y gorllewin. Cyhoeddwyd Postumus yn ymerawdwr gan ei fyddin, a lladdwyd Saloninus.

Derbyniodd taleithiau Gâl, Hispania, Germania a Phrydain ef fel ymerawdwr. Sefydlodd ei brifddinas yn ninas Cwlen, lle bathodd y rhan fwyaf o'i ddarnau arian. Yn 263, dechreuodd Gallienus ymgyrch yn ei erbyn, ond gorfododd Postumus ef i encilio. Cododd Laelianus yn erbyn Postumus, ond gorchfygodd Postumus ef a chipiodd ei fyddin ddinas Moguntiacum (Mainz). Gwaharddodd ei filwyr rhag anrheithio'r ddinas, ac efallai oherwydd hun, llofruddiwyd Postumus gan ei filwyr ei hun.

Wedi marwolaeth Postumus, collodd yr Ymerodraeth Alaidd afael ar Hispania a Phrydain, a adfeddiannwyd gan Rufain. Olynywyd Postumus gan Marcus Aurelius Marius.