Porfirio Díaz

Oddi ar Wicipedia
Porfirio Díaz
GanwydJosé de la Cruz Porfirio Díaz Mori Edit this on Wikidata
15 Medi 1830 Edit this on Wikidata
Oaxaca Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1915 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Instituto de Ciencias y Artes de Oaxaca Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, gweinidog, Aelod o Siambr Dirprwyon Mecsico Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata
MudiadPorfiriato Edit this on Wikidata
PriodDelfina Ortega Díaz, Carmen Romero Rubio Edit this on Wikidata
PlantAmada Díaz Quiñones, Porfirio Díaz Ortega, Luz Aurora Victoria Díaz Ortega Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Leopold, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Order of the Lion and the Sun, Grand Cross of the Order of the Tower and Sword, Royal Order of the Sword, Urdd dros ryddid, Urdd Siarl III, Urdd yr Eryr Coch, radd 1af, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the Lion and the Sun First class, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd a milwr Mecsicanaidd oedd Porfirio Díaz (15 Medi 18302 Gorffennaf 1915) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1877 i 1880 ac o 1884 i 1911.

Ganwyd yn Oaxaca de Juárez yn nhalaith Oaxaca yn ne Mecsico. Roedd yn mestizo ac yn hanu o dras frodorol. Dechreuodd hyfforddi i fod yn offeiriad yn 15 oed. Ymunodd â'r fyddin a gwasanaethodd yn Rhyfel Mecsico a'r Unol Daleithiau (1846–48), yn Rhyfel La Reforma (1857–60), ac yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn 1861–67.[1]

Yn 1876 arweiniodd Díaz wrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Sebastián Lerdo de Tejada a chafodd ei ethol yn arlywydd y wlad ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880–84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog Manuel González yn arlywydd, Díaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir el porfiriato. Wedi iddo ennill etholiad arlywyddol 1910 drwy dwyll, dechreuodd Chwyldro Mecsico yn ei erbyn. Ymddiswyddodd Díaz o'r arlywyddiaeth ar 25 Mai 1911 ac aeth i Ewrop yn alltud. Bu farw ym Mharis yn 84 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Porfirio Díaz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.