Polisi economaidd

Oddi ar Wicipedia

Polisi cyhoeddus gan lywodraethau yn y maes economaidd yw polisi economaidd.[1] Mae'n cynnwys y cyllid llywodraethol, cyfraddau llog, y farchnad lafur, gwladoli, a meysydd eraill o ymyrraeth lywodraethol yn yr economi. Mae mathau o bolisi economaidd yn cynnwys polisi cyllidol, polisi ariannol, polisi masnach, a pholisi diwydiannol, ac yn rheoli gwariant llywodraethol, cyfraith fasnachol, rheoliad, trethiant, ailddosbarthu cyfoeth, a'r cyflenwad arian.

Dylanwadir polisïau economaidd gan ideoleg wleidyddol y blaid neu bleidiau llywodraethol, amodau mewnwladol a materion cyfoes, a strwythurau megis y drefn fasnach fyd-eang a sefydliadau rhyngwladol megis y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Black, Nigar Hashimzade a Gareth Myles. A Dictionary of Economics (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 131 [economic policy].