Plutarco Elías Calles

Oddi ar Wicipedia
Plutarco Elías Calles
Ganwyd25 Medi 1877 Edit this on Wikidata
Guaymas Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1945 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, person milwrol, arlywydd, Secretary of Government Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, gweinidog Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMexican Laborist Party, Plaid Chwyldroadol Genedlaethol Edit this on Wikidata
PriodNatalia Chacón Edit this on Wikidata
PlantHortensia Elías Calles de Torreblanca Edit this on Wikidata

Gwleidydd a milwr Mecsicanaidd oedd Plutarco Elías Calles (25 Medi 187719 Hydref 1945) a fu'n gadfridog yn Chwyldro Mecsico ac yn Arlywydd Mecsico o 1924 i 1928.

Ganwyd yn Guaymas yn nhalaith Sonora yng ngogledd Mecsico. Gweithiodd yn athro ysgol gynradd cyn iddo ymuno â gwrthryfel Francisco Madero yn erbyn yr unben Porfirio Díaz yn 1910. Fe'i dyrchafwyd yn gadfridog ac arweiniodd lluoedd Madero mewn brwydrau yn erbyn Victoriano Huerta a Pancho Villa.[1]

Daeth yn llywodraethwr Sonora yn 1917. Fe'i penodwyd yn weinidog masnach, llafur, a diwydiant yng nghabinet yr Arlywydd Venustiano Carranza. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth i ymgyrchu dros yr ymgeisydd Álvaro Obregón yn etholiad arlywyddol 1920. Gwasanaethodd Calles yn weinidog tramor yn llywodraeth dros dro Adolfo de la Huerta yn 1920 ac yn weinidog mewnwladol dan yr Arlywydd Obregón o 1920 i 1924[1]

Etholwyd Calles yn arlywydd yn 1924 a chychwynnodd diwygio addysg, amaeth, a llafur ym Mecsico. Cyfyngodd ar ddylanwad y fyddin ym mywyd gwleidyddol Mecsico mewn ymgais i atal gwrthryfeloedd milwrol a coups d'état. Cyflwynodd hefyd sawl deddf wrthglerigol i gwtogi ar ddylanwad yr Eglwys Gatholig yn y wlad, er enghraifft drwy wahardd ysgolion eglwysig.[1]

Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth, sefydlodd y Partido Nacional Revolucionario (PNR) yn 1929. Calles oedd yn meddu ar reolaeth y blaid am chwe mlynedd nes i ymblaid adain-chwith ddominyddu'r blaid yn 1934 a chefnogi ymgyrch arlywyddol Lázaro Cárdenas. Bu Calles yn byw'n alltud yng Nghaliffornia nes 1941, pryd gafodd ganiatâd i ddychwelyd i Fecsico. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 68 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Plutarco Elías Calles. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2019.