Plas yn Iâl

Oddi ar Wicipedia
Plas-yn-Ial
Math Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBryneglwys Edit this on Wikidata
SirBryneglwys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr315 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.032061°N 3.235696°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ172490 Edit this on Wikidata
Cod postLL11 3BD Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Hen blasty yng nghymuned Bryneglwys, Sir Ddinbych, yw Plas yn Iâl. Saif i'r gogledd-ddwyrain o bentref Bryneglwys. Roedd y tŷ'n gartref i deulu Elihu Yale (1649-1721), a roddodd ei enw i Goleg Iâl, Wrecsam ac i Brifysgol Yale, yn New Haven, Connecticut, Unol Daleithiau America.

Codwyd yr adeilad yn y 17g ar safle cartref hynach, ac fe'i adnewyddwyd yn y 19g a bellach ceir gwyn-galch yn gorchuddio'r garreg. Mae'n adeilad tri llawr mewn dwy ran, a cheir arfbais uwch ben y prif ddrws neu borth.[1] Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn Radd II ers Tachwedd 1996 (Rhif 17718). Ceir peintiad dyfrlliw o tua 1794; fe'i atgyweiriwyd yn 1830 ac erbyn c. 1870 roedd y tŷ dwywaith ei faint. Mae'r hanner dwyreiniol yn hŷn na'r rhan gorllewinol.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Cwmwd yn nheyrnas Powys, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, oedd Iâl. Roedd yn gwmwd "annibynnol", heb fod yn rhan o gantref. Pan dorrodd y deyrnas honno yn ddwy ran yn y 12g daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Fadog. Erys yr enw 'Iâl' (llurguniad Saesneg: Yale) fel enw am y fro heddiw.

Elihu Yale (1649-1721)[golygu | golygu cod]

Prif: Elihu Yale

O ffermdy Plas yn Iâl, Llandegla, Dyffryn Clwyd y deuai ei rieni. Roedd hefyd yn un o berchnogion y British East India Company ac yn ddyngarwr amlwg. Bu'n gweithio am flynyddoedd yn Madras, India, a gwrthwynebai'r defnydd o blant fel caethweision. Fe'i claddwyd yn Eglwys San Silyn, Wrecsam.

Prifysgol Iâl[golygu | golygu cod]

Mae Prifysgol Iâl yn un o'r prifysgolion mwyaf eu bri yn yr Unol Daleithiau, yn aelod o'r Ivy League ynghyd â Harvard, Princeton ac eraill. Fe'i sefydlwyd ym 1701 fel coleg ddiwynyddol, y "Collegiate School". Ym 1718 fe'i ailenwyd yn "Yale College" i gydnabod rhodd gan Elihu Yale, rheolwr ar gyfer Cwmni India'r Dwyrain yn Madras. Er iddo gael ei eni yn yr Unol Daleithiau roedd gan Elihu Yale gysylltiadau Cymreig cryf at ardal Iâl ac fe'i gladdwyd ym mynwent Eglwys San Silyn yn Wrecsam.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 7 Ebrill 2018.