Plaid Gomiwnyddol Tsieina

Oddi ar Wicipedia
Arwyddlun Plaid Gomiwnyddol Tsieina

Plaid wleidyddol yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw Plaid Gomiwnyddol Tsieina. Sefydlwyd ym 1921, ac ym 1949 trechodd y Kuomintang gan ennill Rhyfel Cartref Tsieina. Mae'r blaid wedi llywodraethu Gweriniaeth Pobl Tsieina ers hynny.[1]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Hon yw'r blaid wleidyddol fwyaf yn y byd, a chanddi 86.7 miliwn o aelodau.[2] Mae ei haelodau yn bennaf yn swyddogion y llywodraeth, swyddogion y fyddin, ffermwyr, a gweithwyr cwmnïau dan berchenogaeth y wladwriaeth. Dim ond tua chwarter o'r aelodau sy'n fenywod.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Chinese Communist Pary (CCP). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Awst 2014.
  2. (Saesneg) China’s Communist Party Reports First New Member Drop in Decade. Bloomberg (30 Mehefin 2014). Adalwyd ar 5 Awst 2014.
  3. (Saesneg) How China is ruled: Communist Party. BBC (8 Hydref 2012). Adalwyd ar 5 Awst 2014.