Pin bawd

Oddi ar Wicipedia
Pin bawd 'clasurol'
Pin bys a bawd

Mae'r pin bawd (sillefir hefyd fel pìn bawd) yn offeryn bychan, fel rheol o fetal gyda min er mwyn tyllu deunydd fel taflen neu boster i'w ddal yn erbyn wal.

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Ar ben y min, neu'r pin, ceir 'cap'. Mae'r cap yno er mwyn arbed y bawd wrth ei wthio i'r bwrdd neu wal. Bydd y cap yn aml wedi ei orchuddio â phlastig er mwyn arbed y bawd ymhellach o anaf neu grafiadau. Gall y capiau fod o wahanol liwiau er mwyn bod yn atyniadol. Defnyddir y pin bawd er mwyn cadw dogfennau, lluniau, mapiau neu unrhyw ddeunydd ysgafn yn sownd i wal, ddrws neu bared a hynny'n orau ar fwrdd corc neu bren meddal arall. Mantais fawr hylaw y pin bawd yw nad oes angen morthwyl er mwyn ei defnyddio, bydd bwysau bawd dynol yn ddigon i wrthio'r min i mewn i'r bwrdd neu wal.

Mathau[golygu | golygu cod]

Cofebfaen i Kirsten yn Lychen
Pin bawd gyfoes gyda haen blastig ar y pen
Pin bawd o'r 1930au

Pin bawd clasurol[golygu | golygu cod]

Mae'r pin confensiynol yn cynnwys tip metelig byr a gellir ei liwio. Mae'r stydiau lliw fel arfer yn cario dwy ran ar y pen, y clawr a'r rhan wastad lle mae'r achos.

Pin Bys a Bawd[golygu | golygu cod]

Mae'r pin bys a bawd (push pin yn Saesneg; pin Americanaidd yn Catalaneg [1] a Sbaeneg [2]) yn wahanol i'r un confensiynol gan fod y corff hir gwydn (nid annhebyg i ddyluniad carn cleddyf bychan) yn ei gwneud yn haws dal y pin rhwng bys a bawd i'w wrthio neu dynnu oddi ar y pinfwrdd. Mae'r carn fel rheol yn ddyluniad blastig silindrog.

Defnyddir delwedd o'r pin bys a bawd ar y system cyfryngau cymdeithasol Twitter fel symbol o 'trydariad' sydd wedi ei binio ar dop tudalen y cyfrif. Gwneir hyn gan fod deilydd y cyfrif am ddeangos ei bwysigrwydd neu rhoi statws bwysicach i'r tydariad hynny dan syle e.e. dyddiad cyfarfod neu ddigwyddiad bwysig sydd ar y gweill, dyfyniad neu broliant gan berson arall, enghraifft o brif donsyrn neu athroniaeth y tydarwr.

Tac[golygu | golygu cod]

Nid pin bawd mewn gwirionedd, ond math ohono a ddefnyddir i ddal fewn a sicrhau deunydd ar ymylon gelfi fel soffa neu efallai dilledyn. Mae wedi ei wneud o ddur neu'n haearn. Y nodwedd fwyaf cyffredin yw clustogwaith dodrefn, er bod y domen gyda blaen dur yn fwy defnyddiol, gan fod y rhai arferol yn cael eu dyblu'n hawdd. Mae'r blaen yn cael ei weldio ar flaen y deilsen.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dyfeisiwyd y pin arlunio mewn enw ac fel eitem a gynhyrchwyd yn helaeth yn yr hyn sydd bellach yn yr Unol Daleithiau yn yr 1750au. Cafodd ei grybwyll am y tro cyntaf yn Oxford English Dictionary ym 1759. Dywedwyd bod y defnydd o'r pin bawd a oedd newydd ei ddyfeisio i atodi hysbysiadau i ddrysau tai ysgol yn cyfrannu'n sylweddol at chwalu eu drysau gothig. Canfuwyd pinnau tynnu modern hefyd fel rhai safonol ym mlychau llunio'r penseiri ar ddiwedd y 18g.[3]

Dywidir hefyd i'r pin gael ei dyfeisio gan y gwneuthurwr oriawr Johann Kirsten yn y flwyddyn 1903 yn nhref Lychen yn ardal Uckermark yn yr Almaen.[4][5] Gwerthodd ei hawliau dyfeisio i Otto Lindstedt, entrepreneur, a dderbyniodd batent gan y Swyddfa ar 8 Ionawr 1904. Gwnaeth hyn Lindstedt yn gyfoethog, tra bod Kirsten, y gwneuthurwr oriawr, yn parhau i fod yn wael. Mae ffynonellau eraill yn cysylltu dyfais y pin â pherchennog y diwydiant Awstria, Heinrich Sachs, yn 1888.

Mae fersiynau modern yn cael eu cynhyrchu gyda “phennau” plastig o silindrau mwy hylaw.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Ceir y cofnod cynharaf o'r gair pìn yn y Gymraeg (i ddynodi pin megis un pin bawb ac nid hedyn coeden pinwydd) yn yr 14g fel benthyyciad o'r Saesneg.[6] gyda'r gair 'pin bawd' yn cael ei gofnodi yn yr 20g.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://ca.wikipedia.org/wiki/Xinxeta
  2. https://es.wikipedia.org/wiki/Chincheta
  3. "Parish and Belonging: Community, Identity and Welfare in England and Wales – 1700-1950", K.D.M Snell, Professor of Rural and Cultural History at Leicester University; Cambridge Press, 2006.
  4. Rubino, Anthony (2011). Essential Shit: Bollocks! Why Didn't I think of That?. David & Charles. t. 56. ISBN 9781446354834.
  5. Katrin Bischoff, Jürgen Schwenkenbecher. Die Reißzwecke von Lychen Archifwyd 2015-12-26 yn y Peiriant Wayback. In: Berliner Zeitung, 11. Tachwedd 2003; Retrieved on 4 Hydref 2013.
  6. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?pin