Patrick Swayze

Oddi ar Wicipedia
Patrick Swayze
GanwydPatrick Wayne Swayze Edit this on Wikidata
18 Awst 1952 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 2009 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coastal Carolina University
  • San Jacinto College
  • Waltrip High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, actor, dawnsiwr, canwr, coreograffydd, actor llais, cynhyrchydd ffilm, aikidoka Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGhost Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
TadJesse Wayne Swayze Edit this on Wikidata
MamPatsy Swayze Edit this on Wikidata
PriodLisa Niemi Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Actor, cerddor a dawnsiwr Americanaidd oedd Patrick Wayne Swayze (18 Awst 195214 Medi 2009[1]). Fe gafodd ei eni yn Houston, Texas a phriododd Lisa Nemi ym 1975. Fe'r oedd yn enwog yn bennaf am chwarae'r brif ran rhamantaidd mewn ffilmiau megis Dirty Dancing (1987) a Ghost (1990). Fe dderbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am ei ran yn "Ghost," ynghyd â'i berfformiadau yn Red Dawn (1984), Road House (1989), a Point Break (1991). Ym 1991, fe gafodd ei restru yng nghylchgrawn "People" fel Y Dyn Mwyaf Rhywiol.

Ym mis Ionawr 2008, fe gafodd ef ddiagnosis am gancr y pancreas, cyfnod 4, ac mae ef wedi bod yn brwydro'r afiechyd yn gyhoeddus. Fe ddywedodd ef wrth Barbara Walters ym mis Ionawr 2009 ei fod yn "trechu'r clefyd".[2] Fodd bynnag, bu farw o'r afiechyd wyth mis yn ddiweddarach. Ei rôl actio olaf oedd y prif ran mewn cyfres ddrama deledu, "The Beast" a leolir mewn ysbyty, a ddechreuodd ddarlledu ar y 15fed o Ionawr, 2009. Serch hynny, am fod iechyd Swayze wedi parhau i ddirywio, nid oedd ef yn medru hyrwyddo'r gyfres ac ar y 15 Mehefin, 2009 cyhoeddodd Entertainment Tonight fod y y gyfres wedi cael ei dileu.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ei flynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Patrick Swayze ar 18 Awst, 1952 yn Houston, Texas, yn blentyn cyntaf i Patsy Yvonne Helen (née Karnes; g. 1927), coreograffwraig, hyfforddwraig ddawns, a Jessie Wayne Swayze (1925-1982), dyluniwr peirianyddol. Roedd ganddo ddu frawd iau, yr actor Don (ganed 1958) a Sean Kyle (ganed 1962), a dwy chwaer, Vicky Lynn (1949-1994) a Bambi, a gafodd eu mabwysiadu gan y teulu. Daeth ei gyfenw o enw un o'i gyn-deidiau Seisnig o'r enw "Swasey" a fewnfudodd i'r Unol Daleithiau

Tan ei fod yn 20 oed, trigai Swayze yng nghymdogaeth Oak Forest yn Houston, lle mynychodd Ysgol Gatholig y Santes Rose o Lima, Ysgol Gynradd Oak Forest, Ysgol Black Middle, ac Ysgol Uwchradd Waltrip. Yn ystod y cyfnod hwn, cymerodd ran mewn nifer o weithgareddau artistig ac athletaidd, megis sglefrio iâ, ballet clasurol ac actio mewn dramâu ysgol. Astudiodd gymnasteg am ddwy flynedd yn y Coleg San Jacinto cyfagos.

Ym 1972, symudodd i Ddinas Efrog Newydd er mwyn cwblhau ei hyfforddiant dawns ffurfiol yn ysgolion ballet Harkness a Joffrey.

Ei yrfa[golygu | golygu cod]

Swydd broffesiynol cyntaf Swayze oedd fel dawnsiwr ar gyfer Disney on Parade. Serennodd fel Danny Zuko yng nghynhyrchiad hir-dymor theatr Broadway o Grease cyn cafodd ei rôl gyntaf mewn ffilm fel "Ace" yn Skatetown, U.S.A.. Ymddangosodd fel Pvt. Sturgis yn y rhaglen "Blood Brothers" yn y gyfres deledu M*A*S*H* ac ym 1982 cafodd gyfnod byr ar y gyfres deledu "The Renegades" lle chwaraeodd rhan Bandit, sef arweinydd y giang. Daeth Swayze yn adnabyddus yn y diwydiant ffilm ar ôl iddo ymddangos yn The Outsiders fel brawd hŷn

C. Thomas Howell a Rob Lowe. Ail-unwyd Swayze, Howell, a ffrind Howell - Darren Dalton yn y ffilm Red Dawn y flwyddyn olynol, ac ail-unwyd Lowe a Swayze yn Youngblood. Ystyriwyd Swayze fel aelod o'r Brat Pack. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf yn y gyfres deledu North and South ym 1985, a oedd wedi ei lleoli yn Rhyfel Annibyniaeth America.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau eraill
1979 Skatetown USA Ace Johnson
1983 Uncommon Valor Kevin Scott
The Outsiders Darrel "Darry" Curtis
1984 Red Dawn Jed Eckert
Grandview, U.S.A. Ernie "Slam" Webster
1986 Youngblood Derek Sutton
1987 Dirty Dancing Johnny Castle Enwebwyd am Golden Globe am yr Actor Gorau, Comedi neu Sioe Gerdd
Steel Dawn Nomad
1988 Tiger Warsaw Chuck "Tiger" Warsaw
1989 Next of Kin Truman Gates
Road House Dalton
1990 Ghost Sam Wheat Enwebwyd am Golden Globe am yr Actor Gorau, Comedi neu Sioe Gerdd
1991 Point Break Bodhi
1992 City of Joy Max Lowe
1993 Father Hood Jack Charles
1995 Disney's Tall Tale Pecos Bill
Three Wishes Jack McCloud
To Wong Foo, Thanks for Everything! Julie Newmar Vida Boheme Enwebwyd am Golden Globe am yr Actor Gorau, Comedi neu Sioe Gerdd
1998 Letters from a Killer Race Darnell
Black Dog Jack Crews
2000 Forever Lulu Ben Clifton
2001 Donnie Darko Jim Cunningham
Green Dragon Gunnery Sergeant Jim Lance
2002 Waking Up in Reno Roy Kirkendall
2003 One Last Dance Travis MacPhearson Cyfarwyddwyd gan ei wraig, Lisa
11:14 Frank
2004 Dirty Dancing: Havana Nights Hyfforddwr dawns (nid Johnny Castle, am fod y ffilm hon cyn Dirty Dancing)
George and the Dragon Garth
King Solomon's Mines Allan Quatermain
2005 Keeping Mum Lance
Icon Jason Monk
2006 The Fox and the Hound 2 Cash (voice)
2007 Jump! Richard Pressburger
Christmas in Wonderland Wayne Saunders
2008 Powder Blue TBA Postproduction
2009 The Beast (Teledu) Charles Barker

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Google.com/hostednews". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-23. Cyrchwyd 2009-09-23.
  2. "Patrick Swayze: The Truth — A Barbara Walters Special" (fideo). 20/20 (ABC). Ionawr 7, 2009. Cyrchwyd 10 Ionawr, 2009.