Pasiphaë

Oddi ar Wicipedia
Daedalus yn dangos y fuwch bren i Pasiphaë. Ffresco o'r Casa dei Vetti, Pompeii, Ganrif 1af OC
Erthygl am y cymeriad mytholegol yw hwn. Am y lloeren sy'n cylchdroi Triton gweler Pasiphae (lloeren).

Gwraig Minos, brenin Creta ym mytholeg Roeg oedd Pasiphaë. Roedd hi'n ferch i Helios, duw'r Haul, a Perseis ac yn chwaer i Aetes a Circe.

Meddiannwyd hi gan chwant i gael cyfathrach rywiol gyda tharw gwyn ysblennydd a roddwyd i'w gŵr Minos gan Poseidon, duw'r môr. Roedd y tarw yn rhodd mewn ymateb i ddymuniad Minos i gael tarw i'w aberthu iddo, ond penderfynodd Minos ei gadw a'i ychwanegu at ei deirw ei hun: mewn dial arno parodd Poseidon i Pasiphaë ymserchu yn y tarw. Yn ôl y chwedl, lluniodd Daedalus fuwch bren iddi gyda lle iddi orwedd y tu mewn iddi a fyddai'n ei galluogi i gael rhyw gyda'r tarw. Beichiogwyd hi a rhoddodd enedigaeth i'r Minotaur, anghenfil hanner dyn hanner tarw a laddwyd yn nes ymlaen yn ei labrinth gan yr arwr Groegaidd Theseus.

Roedd plant Pasiphae gan Minos yn cynnwys Ariadne, Androgeos, Glaucus, Catreus a Phaedra.

Mae'n debygol mai duwies yng nghrefydd y Cretiaid oedd Pasiphaë yn wreiddiol.

Ceir sawl cyfeiriad at ei chyfathrach gyda'r tarw yng ngwaith yr awduron Groeg a Rhufeinig, yn cynnwys Apollodorus, Virgil ac Ofydd.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).