Otto Neurath

Oddi ar Wicipedia
Otto Neurath
Ganwyd10 Rhagfyr 1882 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw22 Rhagfyr 1945 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Man preswylFienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Eduard Meyer
  • Gustav von Schmoller Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, athronydd, cymdeithasegydd, statistical graphics Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr amgueddfa Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadErnst Mach Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria Edit this on Wikidata
TadWilhelm Neurath Edit this on Wikidata
PriodOlga Hahn-Neurath, Marie Neurath, Anna Schapire-Neurath Edit this on Wikidata

Athronydd a chymdeithasegydd o Awstria oedd Otto Neurath (10 Rhagfyr 1882 – 22 Rhagfyr 1945).[1] Dadleuodd dros "Undod y Gwyddorau" a chymwyso athroniaeth er budd gwyddoniaeth. Defnyddiodd positifiaeth resymegol i lunio sail i ddamcaniaeth economaidd ymddygiadol.

Cafodd ei addysg yn Fienna a Berlin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n rhan o weriniaeth gomiwnyddol Bafaria, a chafodd ei garcharu am hynny. Dychwelodd i Fienna i ymgyrchu dros ddiwygiadau Marcsaidd, ac yno bu'n rhan o Gylch Fienna. Fe drefnodd cynadleddau rhyngwladol mewn ymdrech i hybu'r cyfathrebu rhwng disgyblaethau'r gwyddorau, a golygodd y gwyddoniadur International Encyclopedia of Unified Science (1937). Symudodd i'r Iseldiroedd ym 1934, ac i Loegr ym 1941 i ffoi o'r Natsïaid.

Ysgrifennodd Neurath ar amryw bynciau, gan gynnwys systemau dosbarthu, cymdeithaseg gymharol, ac economeg.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Fienna yn fab i'r economegydd Iddewig Wilhelm Neurath a'i wraig Gertrud Kaempffert. Cafodd Otto ei fagu'n Gatholig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Otto Neurath. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.
  2. (Saesneg) Otto Neurath, Stanford Enyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.