Orlando Bloom

Oddi ar Wicipedia
Orlando Bloom
Ffugenw Orlando Bloom
Geni Siwan Morris
13 Ionawr, 1977
Caergaint, Swydd Gaint, Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth Actor
Gwaith nodedig The Lord of the Rings: The Return of The King, Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest

Actor yw Orlando Bloom (ganed 13 Ionawr 1977). Daeth i'r amlwg am y tro cyntaf yn 2001, fel tywysog y coblynnod, Legolas yn y ffilmiau The Lord of the Rings ac fel y gof Will Turner yn y ffilmiau Pirates of the Caribbean. Yn ddiweddarach, ymddangosodd fel y prif gymeriad mewn nifer o ffilmiau Hollywood fel Troy, Elizabethtown a Kingdom of Heaven. Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn

Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest a Pirates of the Caribbean: At World's End. Mae ef hefyd yn serennu yn y ffilm New York, I Love You a Sympathy for Delicious. Perfformiodd Bloom yn broffesiynol ar lwyfan yn "In Celebration" yn Theatr Dug Caerefrog, Lon San Martin, tan ddiwedd y cynhyrchiad ar y 15fed o Fedi 2007.

Ei fywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Orlando Bloom yng Nghaergaint, Swydd Gaint, Lloegr. Ganwyd ei fam, Sonia Constance Josephine (née Copeland), yn yr adran Brydeinig o Kolkata, India, yn ferch i Betty Constance Josephine Walker a Francis John Copeland, a oedd yn feddyg ac yn llawfeddyg. Ar ochr ei fam, mae Bloom yn gefnder i'r ffotograffydd Sebastian Copeland. Trigai teulu mamgu Bloom ar ochr ei fam yn Tasmania, Awstralia a'r India, ac roeddent o dras Seisnig, gyda rhai ohonynt yn dod o Swydd Gaint yn wreiddiol.

Orlando Bloom yn 2005

Yn ystod ei blentyndod, dywedwyd wrth Bloom mai ei dad oedd gwr ei fam, y nofelydd gwrth-apartheid Iddewig a anwyd yn Ne Affrica Harry Saul Bloom; fodd bynnag, pan oedd yn dair ar ddeg (naw mlynedd ar ôl marwolaeth Harry), esboniodd mam Bloom wrtho mai ei dad biolegol oedd Colin Stone, partner ei fam a ffrind i'r teulu. Gwnaed Stone, pennaeth ysgol iaith Concorde International, yn warcheidwad cyfreithiol ar Bloom pan fu farw Harry Bloom. Mae gan Bloom, a enwyd ar ôl y cyfansoddwr o'r 16g Orlando Gibbons, un chwaer, Samantha Bloom, a anwyd ym 1975.

Magwyd Bloom yn Eglwys Lloegr. Fel plentyn llwyddodd Orlando i oroesi yn Ysgol y Brenin Caergaint ac Ysgol San Edmund yng Nghaergaint er gwaethaf ei ddyslecsia. Cafodd ei annog gan ei fam i gymryd rhan mewn dosbarthiadau celf a drama. Ym 1993, symudodd i Lundain er mwyn dilyn cwrs dwy flynedd Lefel A yn Nrama, Ffotograffiaeth a Cherflunio yng Ngholeg y Celfyddydau Cain, Hampstead. Yna, ymunodd â'r Theatr Ieuenctid Isa, gan dreulio dau dymor yno, gan ennill ysgoloriaeth i hyfforddi yn yr Academi Ddrama Americanaidd Brydeinig. Dechreuodd Bloom actio'n broffesiynol gyda rôlau mewn cyfresi teledu fel Casualty a Midsomer Murders, cyn iddo fentro i fyd ffilmiau lle serennod yn ei ffilm gyntaf Wilde (1997), gyda Stephen Fry. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i Ysgol Gerdd a Drama Guildhall yn Llundain, lle astudiodd actio.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1998 Wilde Putain
2001 Black Hawk Down Private 1st Class Todd Blackburn
The Lord of the Rings: The Fellowship of The Ring Legolas Prif rôl cyntaf
2002 The Lord of the Rings: The Two Towers Legolas Hefyd llais Legolas mewn gêm fideo o'r un enw
2003 The Lord of the Rings: The Return of The King Legolas Hefyd llais Legolas mewn gêm fideo o'r un enw
Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl William 'Will' Turner
Ned Kelly Joseph 'Joe' Byrne rhyddhad cyfyngedig
2004 Troy Prince Paris
2005 The Calcium Kid Jimmy Connelly (rhyddhawyd yn syth i fideo yn 2003)
Elizabethtown Drew Baylor
Kingdom of Heaven Balian of Ibelin
2006 Love and Other Disasters Hollywood Actor playing Paolo cameo
Haven Shy cyh-gynhyrchwr hefyd
Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest William 'Will' Turner
2007 Pirates of the Caribbean: At World's End William 'Will' Turner agor 24 Ma1
Everest: A Climb for Peace Narrator
2009 New York, I Love You David hefyd yn serennu gyda Christina Ricci - un o 12 ffilmiau byr


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.