Oligarchiaeth

Oddi ar Wicipedia

Oligarchiaeth neu Oligarchi (Groeg: oligarches, olig- 'ychydig' + -arches 'rheolw(y)r, arweinydd(ion)') yw llywodraethu gwlad neu wladwriaeth gan grŵp bychan o bobl. Daw'r gair o'r cyfnod yn hanes Groeg yr Henfyd pan welid grwpiau bychain o ddinesyddion pwerus yn cymryd awennau'r llywodraeth i'w dwylo eu hunain, e.e. yn Athen yn nyddiau Aristophanes ac Ewripedes.

O'r un gwraidd daw'r gair i ddisgrifio reolaeth ar farchnad gan grŵp bychan o fusnesau, sef oligopoli.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.