Ocsitania

Oddi ar Wicipedia
Ocsitania
Ymgyrchwyr dros yr iaith yn Carcassonne, 2005
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasToulouse Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,922,045 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, CEST Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladFfrainc, Sbaen, yr Eidal, Monaco Edit this on Wikidata
Arwynebedd198,113 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.3°N 2.88°E Edit this on Wikidata
Map
Baner Ocsitania: fersiwn ymgyrchwyr dros annibyniaeth

Gwlad hanesyddol ac endid ieithyddol-ddiwylliannol ydy Ocsitania, sydd heddiw yn y rhan honno o Ffrainc a elwir yn Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan a'r Guardia Piemontese), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) a rhan o Fonaco. Yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania (Ocsitaneg: Occitània). Yn aml, yn yr Ocsitaneg, gelwir yr ardal yn lo país , h.y. 'y wlad', neu lo País d'Òc h.y. 'gwlad yr Oc'.

Lleoliad Ocsitania

Ystyriwyd hi'n endid ieithyddol-diwylliannol ers yr Oesoedd Canol, ond nid yw wedi bod yn endid statudol, gyfreithiol. Mae'r Ocsitaneg, fodd bynnag, yn iaith swyddogol yng Nghatalwnia. Yn oes y Rhufeiniaid, roedd yn wlad unedig, a gelwid hi gan y Rhufeinwyr yn Septem Provinciæ (y Seithfed Rhanbarth) ac felly hefyd yn yr Oesoedd Canol pan galwyd hi'n Aquitanica gan y Fisigothiaid cyn i'r Ffrancwyr gychwyn ei choncro yn niwedd y 13g.

Yr Ocsitaneg[golygu | golygu cod]

Prif erthyg: Ocsitaneg

Yn aml, yn yr Ocsitaneg, gelwir yr ardal yn lo país , h.y. 'y wlad', neu lo País d'Òc h.y. 'gwlad yr Oc'. Yn yr ardal hon, yr Ocsitaneg oedd y brif iaith a siaradwyd. Mae hanner miliwn (allan o boblogaeth o 16 milwn) yn dal i'w siarad ac mae'n debyg iawn i'r Gatalaneg.[1]

Ocsitaniaid[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]