Oblast Kemerovo

Oddi ar Wicipedia
Oblast Kemerovo
Mathoblast Edit this on Wikidata
PrifddinasKemerovo Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,633,446 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ionawr 1943 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSergey Tsivilyov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Krasnoyarsk, Asia/Novokuznetsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Siberia Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd95,500 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Tomsk, Oblast Novosibirsk, Crai Altai, Gweriniaeth Altai, Khakassia, Crai Krasnoyarsk Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.355°N 86.09°E Edit this on Wikidata
RU-KEM Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSergey Tsivilyov Edit this on Wikidata
Map
Baner Oblast Kemerovo.
Lleoliad Oblast Kemerovo yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kemerovo (Rwseg: Ке́меровская о́бласть, Kemerovskaya oblast), a adwaenir hefyd fel Kuzbass (Кузба́сс)). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kemerovo. Fe'i sefydlwyd yn 1943 yn yr Undeb Sofietaidd. Poblogaeth: 1,278,217 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Siberia. Mae gan yr oblast hwn yn Siberia arwynebedd o 95,500 kilometer sgwar (36,900 milltir sgwar) ac mae'n rhannu ffin gyda Oblast Tomsk i'r gogledd, Krasnoyarsk Krai a Gweriniaeth Khakassia i'r dwyrain, Gweriniaeth Altai i'r de, ac Oblast Novosibirsk ac Altai Krai i'r gorllewin.

O ran ethnigrwydd ei boblogaeth, mae'r mwyafrif yn Rwsiaid, ond ceir Wcrainiaid, Tatariaid, a Chuvash yn byw yn yr oblast hefyd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.