Oasis

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y band roc yw hon. Am y dirffurf ('oasis'), gweler gwerddon.
Oasis

Roedd Oasis yn fand roc o Loegr a ffurfiwyd ym Manceinion ym 1991. Ffurfiwyd y grŵp gan Liam Gallagher (prif leisydd), Paul Arthurs (gitâr), Paul McGuigan (gitâr fâs) a Tony McCarroll (drymiau). Yn fuan ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio ymunodd brawd hŷn Liam sef Noel Gallagher (gitâr a lleisydd) â'r band. Mae Oasis wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau ledled y byd [1] ac maent wedi cael wyth sengl a gyrhaeddodd rif un. Maent wedi ennill 15 Gwobr NME, 5 o Wobrau BRIT a 9 Gwobr Q. Y brodyr Gallagher oedd prif gyfansoddwyr y band a nhw oedd aelodau parhaol y band. Ymunodd y gitarydd Gem Archer a'r gitarydd bâs Andy Bell â'r band ym 1999.

Yn wreiddiol, daeth y band i'r amlwg tra'n perfformio yng nghlybiau nos Manceinion. Cawsant eu harwyddo i label recordiau annibynnol Creation Records ac yna rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Definitely Maybe ym 1994. Y flwyddyn ganlynol, recordiodd y band (What's the Story) Morning Glory? (1995) gyda'i drymiwr newydd Alan White, tra'n herio eu cyfoedion Britpop Blur yn y siartiau. Ymddangosodd y brodyr Gallagher yn rheolaidd yn y papurau tabloid yn sgîl eu gwrthdaro brawdol a'u bywydau gwyllt gan greu enw i'w hunain fel bechgyn drwg pop ac fel band y bobl. Ym 1997, â'r band wedi cyrraedd uchafbwynt eu henwogrwydd, rhyddhawyd eu trydydd albwm, Be Here Now (1997). Yr albwm hon werthodd gyflymaf yn hanes y siart Brydeinig. Gwelwyd lleihad ym mhoblogrwydd y band yn yr Unol Daleithiau a chollodd Oasis dau o'i aelodau tymor hir Paul McGuigan a Paul Arthurs yn y cyfnod rhwng recordio a rhyddhau Standing on the Shoulder of Giants (2000) a Heathen Chemistry (2002).

Er gwaethaf recoriad cythryblus, daeth eu chweched albwm Don't Believe the Truth with Zak Starkey (2005), yr albwm a werthodd orau ac a dderbyniwyd orau gan y cyhoedd yn y ddegawd gyfan. Y flwyddyn ganlynol, rhyddhaodd y band albwm o amrywiaeth o ganeuon o'r enw Stop the Clocks. Ym mis Chwefror 2007, derbyniodd Oasis y Wobr BRIT am eu cyfraniad aruthrol i gerddoriaeth. Rhyddhawyd Dig Out Your Soul, eu seithfed albwm stiwdio ar y 6ed o Hydref 2008 gyda'r prif sengl o'r albwm honno'n cael ei rhyddhau ar y 29ain o Fedi 2008. Ar gyfer eu taith 2008, ymunodd Chris Sharrock â'r band. Ar ôl blynyddoedd o ddadlau ac anghytuno chwalodd y band yn ystod 2009 ym Mharis wedi ffrae rhwng Liam a Noel yn yr ystafell newid, a gadawodd Noel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Oasis
yn Wiciadur.