Novaya Zemlya

Oddi ar Wicipedia
Novaya Zemlya
Mathgrŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Arkhangelsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd35,000 mi², 90,650 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,547 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau73.9525°N 56.34861°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Novaya Zemlya

Gorynys fawr is-Arctig oddi ar arfordir gogleddol Rwsia yw Novaya Zemlya (sillafiad Rwseg: Новая Земля; ystyr: tir newydd). Mae'n gorwedd rhwng Môr Barents a Môr Kara gydag arwynebedd tir o 83,000 km² (32,040 milltir sgwar). Gellir ei hystyried yn barhad gogleddol o gadwyn hir Mynyddoedd Ural. Mae'n cynnwys dwy ynys a wahanir gan gulfor cul. Ceir culfor arall, Culfor Kara, rhwng yr ynys ddeheuol a'r tir mawr. Mae'r ynys ogleddol dan rew trwy'r flwyddyn a than yn ddiweddar doedd neb yn byw yn Novaya Zemlya yn barhaol.

Mae'r ardal yn cael ei gweinyddu gan Oblast Arkhangelsk fel 'Tiriogaeth Ynys Novaya Zemlya'. Poblogaeth: 2,716 (Cyfrifiad 2002), gyda 2,622 yn Belushya Guba, canolfan weinyddol Novaya Zemlya. Yn ogystal ceir poblogaeth fechan o bobloedd brodorol, sef tua 100 o Nenets, sy'n dal i fyw mewn pebyll traddodiadol ac yn symud o le i le i ddal pysgod a hela anifeiliaid fel morloi ac eirth gwyn.

Mae Novaya Zemlya yn fynyddig iawn, ac yn cyrraedd 1,547 m ger Culfor Kara. Ar yr ynys ogleddol ceir nifer o rewlifoedd, tra bod gan yr ynys ddeheuol hinsawdd twndra. Mae adnoddion naturiol yn cynnwys copr, plwm, a sinc.

Ceir tystiolaeth fod masnachwyr o Novgorod wedi ymweld â Novaya Zemlya mor gynnar â'r 11g, efallai i brynu croen anifeiliad gwyllt.

Yn ystod y drydedd fordaith i foroedd y Gogledd, dalwyd llong y fforiwr enwog Willem Barentsz yn y rhew ar arfordir gogleddol Novaya Zemlya, ac fe fu iddo farw yno ar 20 Medi, 1597.

Ers diwedd yr Ail Ryfel Byd mae Novaya Zemlya wedi cael ei defnyddio gan luoedd arfog Rwsia. Bu dros 200 o arbrofion niwclear danddaerol ar yr ynys.