Newton-metr

Oddi ar Wicipedia
Newton-metr
Enghraifft o'r canlynolSystem Ryngwladol o Unedau, uned trorym, uned SI gydlynol Edit this on Wikidata

Mae newton-metr neu metr newton (symbol: N m) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur moment o rym neu "trorym" (Saesneg: torque).[1] Y ffurf symbolic o'i dalfyru yw naill ai N m neu N·m.[2] Mae un newton-metr yn hafal i drorym sy'n dod o rym o un newton yn gwthio ar ongl sgwâr ar lifer un metr o hyd.

I ddeall uned a ddefnyddir i fesur trorym, rhaid gofyn yn gyntaf beth ydy trorym? Pan fo grym yn gweithredu ar wrthrych sydd ar golyn (e.e. lifer) mae'n creu trorym a'r enw ar hwnnw ydy "moment". Mae moment yn cael ei gyfrifo drwy luosi grym gyda'r pellter perpandiciwlar.

Yn anaml, caiff y term newton-metr ei ddefnyddio i ddisgrifio uned o ynni, ond fel arfer defnyddir y joule i wneud hyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. gwefan swyddogol SI: "...For example, the quantity torque may be thought of as the cross product of force and distance, suggesting the unit newton metre, or it may be thought of as energy per angle, suggesting the unit joule per radian."
  2. BIPM - symbolau unedau SI
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.