Nestoriaeth

Oddi ar Wicipedia

Sect Gristnogol a sefydlwyd ar sail dysgeidiaeth Nestorius, Archesgob Caergystennin (428–31), yw Nestoriaeth. Fe bregethai athrawiaeth amgen ar natur Iesu Grist, gan honni bod natur ddwyfol a natur ddynol ar wahân sydd i'r Iesu. Datblygodd ei ddilynwyr yn enwad yn Asia Leiaf ac yn Syria, ac ymledasant ar draws yr Ymerodraeth Fysantaidd gan sefydlu eglwys Ddwyreiniol annibynnol i wadu awdurdod Patriarch Caergystennin. Condemniwyd dysgeidiaeth Nestorius yn heresi gan gynghorau eglwysig Effesws (431) a Chalcedon (451), gan ei fod yn groes i'r athrawiaeth uniongred taw natur ddeuol wedi ei huno'n un person sydd i'r Iesu. Cafodd Nestorius ei ddiswyddo a'i alltudio, a chafodd ei ddilynwyr eu herlid. Ymfudasant i Bersia, yr India, Tsieina, a Mongolia.

Goroesai'r Nestoriaid ar ffurf Eglwys y Dwyrain, neu'r Eglwys Bersiaidd, a elwir weithiau yn yr Eglwys Asyriaidd neu'r Eglwys Nestoraidd. Mae tua 170,000 ohonynt yn byw yn Irac, Syria, ac Iran.

Athrawiaeth a dysgeidiaeth[golygu | golygu cod]

Cristoleg[golygu | golygu cod]

Yn ôl yr athrawiaeth Gristnogol a gadarnhawyd gan gynghorau eglwysig y 5g, natur ddeuol sydd i Iesu Grist – y natur ddwyfol a'r natur ddynol – sydd ar wahân i'w gilydd ond wedi eu huno ar ffurf un person ac un sylwedd. Cytunai Nestorius bod natur ddeuol i'r Iesu, a bod y ddwy yn gweithredu'n un, ond honnai nad oedd y ddwy natur yn cyfuno ar ffurf unigol.

Dadleuai Nestorius nad oedd y Forwyn Fair yn "Fam Duw", gan yr oedd ei mab Iesu yn ddyn, a'i natur ddwyfol yn tarddu o Dduw'r Tad, nid ei fam. Fe laddai ar yr arfer o alw'r Forwyn Fair yn Theotokos ("dygydd duw"), ac honno oedd y rheswm iddo gael ei anathemeiddio gan Gyngor Effesws.

Y Drindod[golygu | golygu cod]

O berthynas i athrawiaeth y Drindod, nid yw'n ymddangos fod Nestorius yn gwahaniaethu o ran ei farn oddi wrth ei wrthwynebwyr, gan ei fod yn cydnabod cydraddoldeb y personau dwyfol. Fodd bynnag, cyhuddid ef o fod yn dal fod dau berson gwahanol, yn gystal â dwy natur, yn yr Arglwydd Iesu Grist. Yr oedd Nestorius yn wastad yn gwadu hyn yn y modd mwyaf difrifol, ac y mae wedi ei glirio oddi wrth y cyhuddiad hwn gan lawer o ysgrifenwyr diweddar, yn neilltuol dan Martin Luther, a osodai'r holl fai am y ddadl gynhyrfus hon ar dymer ac ysbryd aflywodraethus a digofus Cyril.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ysgythriad o Nestorius gan yr Iseldirwr Romeyn de Hooghe (1688).

Ffynnodd Nestoriaeth yn ei hoes gynnar ym Mhersia. Datganodd yr Eglwys Bersiaidd ei hannibyniaeth yn 424, gan osgoi erledigaeth gan y rhai oedd yn drwgdybio Cristnogion o fod yn gysylltiedig ag estroniaid. Cafodd Theodore o Mopsuestia, prif ddiwinydd y Nestoriaid, ei gydnabod yn amddiffynnydd y ffydd gan yr Eglwys Bersiaidd yn 486, ac ers cyfnod y patriarch Babai (497–502) eglwys Nestoriaidd ydy'r Eglwys Bersiaidd. Yn niwedd y 5g, ymgasglodd nifer o ddilynwyr Nestorius yn ysgol ddiwinyddol Edessa. Cafodd yr ysgol ei chau gan awdurdodau'r ymerodraeth yn 489, ac ymfudodd carfan o Nestoriaid pybyr i Bersia. Daeth yr ysgol newydd yn Nisibis yn ganolfan ddeallusol y Nestoriaid. Ymledodd yr Eglwys Bersiaidd i sefydlu esgobaethau yn Arabia a'r India yn ogystal â'i harchesgobaethau ym Mhersia. Bu sgism yn yr eglwys yn y 520au a'r 530au, a chawsant eu herlid yn y cyfnod 540–545. Ailsefydlwyd y traddodiad mynachaidd gan Abraham o Kashkar (501–586), a sefydlodd mynachdy Mynydd Izala ger Nisibis.[1]

Map o esgobaethau Eglwys y Dwyrain ac ardaloedd ei chenadaethau yn yr Oesoedd Canol.

Yn sgil y goncwest Arabaidd ym Mhersia yn 637, cydnabuwyd Eglwys y Dwyrain yn gymuned grefyddol ar wahân a chanddi nawdd cyfreithiol dan y Galiffiaeth. Erbyn y 10g, roedd 15 o daleithiau eglwysig yn y Galiffiaeth a 5 yn India, Tsieina, a gwledydd eraill. Ymledodd y Nestoriaid hefyd i'r Aifft ac i lys y Chan Mawr ym Mongolia. Bu bron i Eglwys y Dwyrain ddiflannu'n gyfan gwbl yn sgil cyrchoedd Timur a'i Dyrciaid yn y 14g, ond llwyddodd cymunedau i oroesi yn ardal Cyrdistan, yn Irac, Twrci, ac Iran.[1]

Ailunodd nifer o Nestoriaid ag Eglwys Rhufain yn 1551 fel rhan o'r Eglwys Gatholig Galdeaidd. Ymunodd Cristnogion Sant Tomos, enw ar y Nestoriaid yn India, â Rhufain yn 1599. Yn ddiweddarach, cafwyd sgism ymhlith Cristnogion Sant Tomos ac ymunodd rhyw hanner ohonynt â'r Jacobiaid Syriaidd (Monoffysaidd) dan batriarch Antioch yn 1653. Yn 1898, cafodd carfan o Nestoriaid yn Urmia, Iran, ei derbyn yn rhan o gymundeb Eglwys Uniongred Rwsia.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Nestorians. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Hydref 2018.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.