Nanteos

Oddi ar Wicipedia
Nanteos
Mathgwesty mewn plasty gwledig, plasty Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Greal Santaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNanteos Estate Edit this on Wikidata
LleoliadLlanfarian Edit this on Wikidata
SirLlanfarian Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr59 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3882°N 4.0291°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethWilliam Edward Powell, William Powell Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Plasdy yng nghymuned Llanfarian ger Aberystwyth, Ceredigion yw Nanteos. Fe'i adeiladwyd yn yr arddull Newydd-Glasurol gan deulu'r Poweliaid yn y 18g.

Cysylltwyd Y Greal Santaidd â phlasdy Nanteos. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw "Cwpan Nanteos". Dywedid mai hwn oedd y Greal ei hun, wedi ei gludo o Ynys Wydrin i Abaty Ystrad Fflur ac oddi yna i Nanteos yn sgîl diddymu'r mynachlogydd yn 1536. Yn ôl y chwedl, daeth Joseff o Arimathea o Balesteina i Ynys Wydrin gyda'r llestr arbennig. Credid ei bod yn iachau afiechydon, yn enwedig afiechyd gwaed.

Ymddengys nad oes sail i honiad George Powell fod Wagner wedi aros yn Nanteos a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi ei opera Parsifal ar ôl yfed o'r gwpan. Roedd Powell yn hoff iawn o waith Wagner ond ymwelodd y cyfansoddwr â gwledydd Prydain yn 1855, tua deng mlynedd cyn iddo ysgrifennu Parsifal.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Nanteos.
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.