Môr Barents

Oddi ar Wicipedia
Môr Barents
Mathmôr ymylon, môr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWillem Barentsz Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
GwladRwsia, Norwy Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,424,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau75°N 40°E Edit this on Wikidata
Map

Môr sy'n rhan o Gefnfor yr Arctig yw Môr Barents. Saif i'r gogledd o Norwy a rhan ewropeaidd Rwsia, gyda Chulfor Kara a Novaya Zemlya yn ei wahanu oddi wrth Fôr Kara yn y dwyrain. Cafodd ei enw ar ôl y fforiwr Willem Barents o'r Iseldiroedd.

Mae'r dŵr ychydig yn gynhesach nag y disgwylid i fôr sydd cyn belled i'r gogledd, ac mae'n fan pysgota pwysig, yn enwedig am y Penfras. Y ddinas fwyaf ar arfordir Môr Barents yw Murmansk, a ddefnyddir fel porthladd gan lynges Rwsia. Mae Afon Petsiora yn aberu yn y môr yma.

Lleoliad Môr Barents