Máirtín Ó Cadhain

Oddi ar Wicipedia
Máirtín Ó Cadhain
Ganwyd1906 Edit this on Wikidata
An Spidéal Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1970 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Patrick's College Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, beirniad llenyddol, academydd, rhyddieithwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCré na Cille Edit this on Wikidata
PriodMáirín Ní Rodaigh Edit this on Wikidata
llofnod

Ysgrifennwr yn yr iaith Wyddeleg oedd Máirtín Ó Cadhain (190618 Hydref 1970; IPA: ˈmɑːrtʲiːnʲ oː ˈkainʲ).

Ganwyd Máirtín Ó Cadhain yn Cnocán Glas, ger pentre An Spidéal yn Sir Gaillimh. Roedd yn aelod yr IRA (Byddin Weriniaethol Iwerddon). Roedd e'n weithgar iawn dros y Wyddeleg ac yn aelod y gymdeithas Muintir na Gaeltachta a helpodd sefydlu Gaeltacht newydd Rath Cairn ym 1935.

Cafodd ei garcharu yng ngwersyll y Currach yn Sir Cill Dara drwy'r Ail Rhyfel y Byd am ei fod yn aelod yr IRA. Yno fe astudiodd ieithoedd megis Rwseg, Cymraeg a Llydaweg. Ac yno yr ysgrifennodd ei waith enwocaf, y nofel Cré na Cille (tir y mynwent). Aeth ymlaen i addysgu cannoedd o'i gyd-carcharwyr y Wyddeleg. Ysgrifennwyd dau lyfr arall tra yn y carchar Athnuachan a Barbed Wire.

Ar sail ei lyfrau apwyntwyd e yn ddarlithydd Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn Ystirir Ó Cadhain fel un o brif awduron Gwyddeleg yr 20g. Roedd e'n rhugl ym mhob un o'r tafodieithoedd a Gaeleg yr Alban yn ogystal ar Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol.

Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad hawliau iaith Wyddeleg, Gluaiseacht Chearta Sibhialta na Gaeltachta, mudiad a ysbrydolwyd gan ddulliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Cré na Cille, 1949/1965
  • Athnuachan, 1995
  • Barbed Wire, 2002
  • Idir Shúgradh agus Dáiríre, 1975
  • An Braon Broghach (y diod tywyll), 1991
  • Cois Caoláire, 2004
  • An tSraith dhá Tógáil, 1970/1981
  • An tSraith Tógtha, 1977
  • An tSraith ar Lár, 1986
  • Ó Cadhain i bhFeasta (yn y cylchgrawn Feasta), 1990
  • Caiscín (yn yr Irish Times), 1998
  • Caithfear Éisteacht (yn y cylchgrawn Comhar), 1999
  • As an nGéibheann (o'r carchar), llythyrau rhyngddo a Tomás Bairéad

erthyglau amdano yn y Lydaweg[golygu | golygu cod]

  • Al Liamm, niv. 16, Skarzherezh Nevez-hañv, brezhoneg gant G. Dourgwenn
  • Al Liamm, niv. 120, un tamm eus Cré na Cille (Douar ar vered)
Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.