Mysgedwr

Oddi ar Wicipedia
Mysgedwr o'r Iseldiroedd gan Jacob van Gheyn yn 1608.

Math o filwr troed (neu inffantri) yw mysgedwr a chanddo fysged, sy'n rhoi iddo'i enw. Roeddent yn rhan bwysig o bob byddin gwerth ei halen drwy Ewrop ar ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd at ganol yr 17g pan ffafriwyd y reiffl fel gwn. Ar adegau roedd gan y mysgedwr geffyl (fel y dragŵn neu'r cafalri). Arferai Byddin Imperialaidd yr Almaen ddefnyddio'r enw yma hyd at y Rhyfel Mawr.

Addaswyd Les trois mousquetaires (Y Tri Mysgedwr) gan Alexandre Dumas i'r Gymraeg gan J.E.B. Jones (Hughes, 1965).

Y cyfnod cynnar[golygu | golygu cod]

Mysgedwyr yn Tsieina yn ystod y Brenhinllin Ming o'r 14eg ganrif.

Mae'n bur debygol mai'r wlad gyntaf i ddefnyddio mysgedwyr, oedd Tsieina ar gychwyn y 14g ac o bosib cyn hynny. Yn sicr roeddent yn rhan hanfodol o'r fyddin yn ystod y Brenhinllin Ming (1368–1644) a'r Brenhinllin Qing (1644–1911). Ceir llyfr o'r 14g sy'n disgrifio'r ddyfais matchlock yn Tsieina.[1]

Roedd Ymerodraeth yr Otomaniaid hefyd yn flaenllaw gyda'r ddyfais newydd a hyfforddwyd mysgedwyr di-ri i'w defnyddio ganddynt yn yr 1440au, yn enwedig gan y corfflu Jannisari. Roeddent wedi ymestyn eu tiriogaeth o Dwrci i Arabia a defnyddiwyd y mysgedwyr ganddynt pan wnaethon nhw orchfygu Caergystennin (Istanbwl heddiw). Dyma'r cyfnod pan y defnyddiwyd y canon (neu "Fombard Mawr Twrci" fel y'i galwyd) am y tro cyntaf i chwalu muriau caerau a chestyll.

Gyda Ffrainc y cysylltir y gair fel arfer, a gair Ffrengig ydoedd yn wreiddiol. Ffurfiwyd "Mysgedwyr y Gard" yn 1622 gan Louis XIII pan gyflwynodd y gwn i gwmni o gafalri ysgafn.

Y Reiffl[golygu | golygu cod]

"Y Cotiau Cochio" oedd y llysenw ar fysgedwyr Prydeinig ac yng ngwledydd Prydain, defnydiwyd y mysgedwyr (a'u mysgedau "Brown Bess") am y tro diwethaf ym 1854 gyda'r reifflwyr (a'u Minié rifle) yn eu disodli. Roedd gan y reiffl hwn bellter dair gwaith hirach na'r mysged.[2] Arferai Byddin Imperialaidd yr Almaen ddefnyddio'r enw yma hyd at y Rhyfel Mawr.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Needham, Cyfrol 5, Rhan 7, 447-454.
  2. R. M. Barnes, page 95 A History of the Regiments & Uniforms of the British Army, Sphere Books 1972