Myrr

Oddi ar Wicipedia
Y goeden Commiphora myrrha , un o'r prif goed a dyfir er mwyn cynaeafu Myrrh.
Mae Myrrh yn bur gyffredin yng Nghorn Affrica.
Olew a echdynnir allan o'r myrrh (Commiphora myrrha)

Resin persawrus yw myrr[1] neu lysiau'r gïau[2] a chaiff ei ystyried yn olew naws a elwir yn oleoresin. Adnabyddir hefyd gan yr enw creithig bêr, cegiden wen, a sisli bêr. Caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y genws Commiphora.[3] Math o gwm naturiol yw resin myrr, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, arogldarth a meddyginiaeth, neu ar adegau drwy ei gymysgu â gwin.

Mae'r broses o gynaeafu myrr yn hawdd: gwneir twll yn rhisgl y goeden nes cyrhaeddir y gwynnin, a gwaeda'r goeden yn naturiol, ar ffurf resin hanner hylifol; dyma'r resin, sy'n hynod o debyf i thus. Mae cynaeafu'r goeden fel hyn yn anafu'r goeden ac mae'r resin yn caledu'n sydyn, gyda sglein arno. Mae hefyd yn melynnu a gall fod yn glir neu'n dryleu. Gyda thruliad amser mae'n tywyllu, gyda rhesin gwyn arno.[4]

Rhywogaethau[golygu | golygu cod]

Y rhywogaeth a ddefnyddir yn amlaf yw'r Commiphora myrrha, sy'n frodorol o Iemen, Somalia, Eritrea a dwyrain Ethiopia. Bellach (o ran tacsonomeg) ystyrir y Commiphora molmol,[5] yn un o gyfenwau'r Commiphora myrrha.[6] Cyfeirir at Commiphora gileadensis, sy'n frodorol o Orynys Arabia mae'r cyfeiriad beiblaidd: Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo,wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. 22Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr?[7] Ceir sawl cyfeiriad yn yr Hen Destament (e.e. Genesis 37:25 ac Exodus 30:23) ac yn y Testament Newydd yn Llyfr Mathew, yn un o'r anrhegion a roddwyd i'r baban Iesu Grist, gan y Doethion, yn ôl y Beibl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  myrr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  2.  llysiau. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  3. Patty C. Rice, Amber: Golden Gem of the Ages (Bloomington, IN: Author House, 2006), tud. 321
  4. Caspar Neumann a William Lewis, The Chemical Works of Caspar Neumann, M.D., 2il gol., cyf. 3 (Llundain, 1773), tud. 55
  5. G. Newnes, gol., Chambers's Encyclopædia, cyf. 9 (1959)
  6. The Plant List, 2013. Version 1.1 Archifwyd 2019-05-23 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 24 Chwefror 2014
  7. bible.com; Jeremeiah 18-22BCN; adalwyd 25 Rhagfyr 2015