Mynyddoedd Altai

Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd Altai
Mathmynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladCasachstan, Rwsia, Mongolia, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,506 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49°N 89°E Edit this on Wikidata
Hyd2,000 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolPaleosöig Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig fetamorffig Edit this on Wikidata
Erthygl am y mynyddoedd yw hon. Am ystyron eraill gweler Altai.

Cadwyn o fynyddoedd uchel yng nghanolbarth Asia mewn ardal lle mae ffiniau Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia a Chasachstan yn cwrdd â lle gorwedd tarddleoedd afonydd Irtysh, Ob a Yenisei yw Mynyddoedd Altai, neu'r Altai (Rwseg: Алтай Altay; Mongoleg: Алтай Altay). Yr Altai yw mamwlad y pobloedd Twrcig. Mae'n ymestyn o'r gogledd-orllewin lle mae'n cyffwrdd â Mynyddoedd Sayan (i'r dwyrain), ac yn ymestyn oddi yno i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at tua 45° Gog. 99° Dwy., lle mae'n graddol golli uchder gan ymdoddi i lwyfandir uchel Anialwch y Gobi.

Ystyr yr enw, Altay/Altau/Altai yw "Mynydd(oedd) Aur" (al "aur" + tau "mynydd"). Mae'r teulu iaith Altaig yn cael ei enwi o'r gadwyn.

Mae ardal anferth 16,178 km² - Gwarchodfeydd Natur Altai a Katun, Llyn Teletskoye, Mynydd Belukha a Llwyfandir Ukok - wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd dan yr enw Mynydoedd Euraidd yr Altai. Mae'n cynnwys enghreifftiau gwych o bob cynefin pwysig a geir yn Siberia ac yn gartref i sawl anifail prin fel llewpardiaid yr eira a'r argali'r Altai.

Mae copaon mawr yr Altai yn cynnwys Mynydd Khüiten, copa uchaf Mongolia. Ceir nifer o lynnoedd ac afonydd.

Map yn dangos lleoliad cadwyn yr Altai yng nghanolbarth Asia
Ardal Belukha yn yr Altai
Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato