Mynydd Mallaen

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Mallaen
Mathbryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr462 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.08°N 3.84°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd205 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd Cambria Edit this on Wikidata
Map

Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Mynydd Mallaen. Mae'n gorwedd yng ngogledd y sir ym mryniau Elenydd. Uchder: 448m.

Mae'n fwy o lwyfandir uchel na bryn go iawn. Mae Bwlch-y-rhiw yn gorwedd rhyngddo â gweddill Elenydd. O ochr orllewinol y bwlch llifa afon Cothi heibio i droed y bryn ar ei ffordd i lawr i Bumsaint. O'r ochr arall llifa ffrwd fynyddig i ymuno yn afon Tywi.

Ger copa'r mynydd ceir carnedd Crugiau Merched sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Ceir maen hir tua hanner milltir i'r de-ddwyrain.

Cadwraeth[golygu | golygu cod]

Mae Cwm Doethie a Mynydd Mallaen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato