Musique concrète

Oddi ar Wicipedia
Musique concrète
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth electroawcwstig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y phonogène cromatig

Math o gerddoriaeth electronig a gychwynwyd yn Ffrainc yn y 1950au gyda thapiau magnetig yw musique concrète (ynganiad Ffrangeg: ​[myzik kɔ̃.kʁɛt]). Ailadroddwyd tameidiau o dapiau mewn cyfres o sain a oedd yn llai cyfyng na'r 8 nodyn a oedd yn bodoli ar y pryd, ac nid oedd ynghlwm i gyfyngiadau'r oes: cynghanedd, melodi, rhythm ayb. Math o Musique concrète yw'r gerddoriaeth a chwaraewyd fel rhan o gerddoriaeth Dr Who, a hynny cyn bodloaeth y syntheseinydd cerddorol. Ymhlith y ffynonellau sain roedd offerynnau cerddorol, llais dynol, syntheseinyddion neu sain o'r byd natur.

Pierre Schaeffer a Studio d'Essai[golygu | golygu cod]

Ym 1945 cychwynodd y cyfansoddwr Pierre Schaeffer ei ymchwil i radioffoneg pan ymunodd gyda Jacques Copeau a'i ddilynwyr i sefydlu Studio d'Essai de la Radiodiffusion Nationale. Roedd y stiwdio yn wreiddiol yn ganolfan chwyldroadol i'r symudiad i foderneiddio radio Ffrengig. Ym 1944 darlledwyd y gerddoriaeth cyntaf o'r math yma.

Cymru[golygu | golygu cod]

Mae'r record hir Salem gan Endaf Emlyn yn un o'r cyntaf i gynnwys cerddoriaeth electronig, sef y genre o gerddoriaeth a esblygwyd o musique concrète.

Cyfansoddwyr nodedig eraill[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Austin, Larry, and Denis Smalley (2000). "Sound Diffusion in Composition and Performance: An Interview with Denis Smalley". Computer Music Journal 24, rhif. 2 (Haf): 10–21.
  • Battier, Marc (2007). "What the GRM Brought to Music: From Musique Concrète to Acousmatic Music". Organised Sound 12, rhif. 3 (Rhagfyr: Musique Concrète's 60th and GRM's 50th birthday—A Celebration): 189–02.