Mudoledd cymdeithasol

Oddi ar Wicipedia

Symudiad unigolion, teuluoedd, neu grwpiau cymdeithasol o un safle gymdeithasol i un arall yw mudoledd cymdeithasol. Dynodir safleoedd yn uwch neu'n is yn ôl rhyw raddfa o statws, hynny yw haeniad cymdeithasol megis cyfundrefn dosbarthiadau. Nod egalitariaeth yw sicrhau'r cyfle i bob unigolyn allu gwella ei statws economaidd-gymdeithasol, neu i'r unigolyn ennill ei le yn y gymdeithas o ganlyniad i'w ddoniau, y drefn a elwir meritocratiaeth. Yn y gymdeithas bur feritocrataidd, ni fyddai dosbarth economaidd-gymdeithasol y plentyn yn effeithio o gwbl ar ddosbarth yr oedolyn.[1]

Hen hysbyseb Americanaidd ar gyfer ysgol ohebol (1916). Mae'r llun yn awgrymu byddai dyn sy'n cael addysg yn gwella safle economaidd ei hunan, ac erbyn 50 oed yn ennill ddengwaith gymaint o gyflog â dyn arall.

Mewn hierarchaethau hanesyddol, megis ffiwdaliaeth a'r gyfundrefn gast, nid oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn disgwyl gwella'u safle ym mywyd, a chafodd haenau cymdeithas eu hystyried yn amod naturiol na ellir ei newid. Yn y cyfnod modern cynnar, yn sgil goblygiadau diwydiannu a thwf democratiaeth, datblygodd y syniad a'r arfer o ddosrannu swyddi yn ôl doniau'r unigolyn, yr hyn a elwir carrière ouvert aux talents ("gyrfa yn agored i dalent") gan Napoléon.[1] Yn y gymdeithas ddiwydiannol fodern, mudoledd yn nhermau galwedigaeth yw mudoledd cymdeithasol yn bennaf. Addysg ac hyfforddiant ydy'r prif foddion o gyrraedd safle uwch, hynny yw mewn swydd fedrus. Er hynny, mae manteision o hyd gan blant y dosbarthiadau uwch: arian, cysylltiadau, a braint gymdeithasol.[2]

Mae'r rhan fwyaf o ymchwil yn y maes hwn yn cymryd barn o werth mudoledd cymdeithasol, yn unol â damcaniaeth "rhesymeg diwydiannaeth": mae hunanwellhad galwedigaethol o les i bawb, ac nid yw'r homo economicus hunangeisiol yn dymuno gweithio'r un grefft neu lafur â'i dad. Mae cymdeithasegwyr ac economegwyr yr adain chwith hefyd yn ymdrin â'r maes gyda gogwyddion ideolegol, ac yn cymryd yn ganiataol bod cyfraddau isel o fudoledd yn groes i ddiddordebau a dymuniadau'r dosbarthiadau isaf.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 David Robertson, The Routledge Dictionary of Politics 3ydd argraffiad (Llundain: Routledge, 2004), tt. 450–1.
  2. Daniel Bell, "Social mobility" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought, golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 581.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Lee Elliot Major a Stephen Machin, Social Mobility and its Enemies (Llundain: Penguin, 2018).