Mosg Al-Aqsa

Oddi ar Wicipedia
Mosg Al-Aqsa
Mathmosg, congregational mosque, musalla Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol717 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAl-Aqsa Edit this on Wikidata
LleoliadBryn y Deml Edit this on Wikidata
SirHen Ddinas Caersalem Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.7761°N 35.2358°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Islamaidd Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Mosg Al-Aqsa gyda'r Mur Gorllewinol o'i flaen, yn Jeriwsalem
Y tu mewn i Fosg Al-Aqsa
Gweler hefyd al-Aqsa (gwahaniaethu).

Cysegrfan Islamaidd yn Hen Ddinas Jeriwsalem yw Mosg Al-Aqsa neu al-Aqsa (Arabeg: المسجد الاقصى, IPA /æl'mæsʒɪd æl'ɑqsˁɑ/, al-Masjid al-Aqsa sef "Y Mosg Pellaf"). Mae'r mosg ei hun yn rhan o'r al-Haram ash-Sharif neu Bryn y Deml (Temple Mount), sy'n lle cysegredig i Iddewon hefyd fel safle tybiedig Teml Jeriwsalem (Teml Solomon); cyfeirir at y mosg fel "Y Gromen ar y Graig" weithiau hefyd, er bod y term yn cael ei ddefnyddio yn fwy priodol fel enw am yr al-Haram ash-Sharif ei hun yn ogystal. Mae Mwslemiaid, yn enwedig y Mwslemiaid Sunni, yn ystyried mai al-Aqsa yw'r lle sanctaidd trydydd bwysicaf yn Islam; credant fod y Proffwyd Muhammad wedi cael ei gludo o'r Mosg Sanctaidd (Masjid al-Haram) ym Mecca i al-Aqsa yn Nhaith y Nos, fel y'i disgrifir yn y Coran. Yn ôl traddodiadau Islamig, roedd Muhammad a'i ddilynwyr yn gweddio i gyfeiriad al-Aqsa hyd y 17eg fis ar ôl y Hijra, pan newidiwyd i weddio i gyfeiriad y Ka'aba ym Mecca.

Codwyd yr adeilad Islamig cyntaf ar y safle tua'r flwyddyn 685 ond mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 11g ymlaen. Codwyd math o gapel gweddi yno gan y califf Rashidun Umar tua 685 ond fe'i ailadeiladwyd a'i ehangu gan y califf Ummayad Abd al-Malik a'i orffen gan ei fab al-Walid yn 705. Dinistrwyd y mosg yn 746 a chafodd ei ailadeiladu gan y califf Abbasid al-Mansur yn 754, ac eto gan ei olynydd al-Mahdi yn 780. Dinistrwyd y rhan helaeth o al-Aqsa gan ddaeargryn arall yn 1033, ond yn 1035 cododd y califf Fatimid Ali az-Zahir y mosg sy'n sefyll heddiw. Cafywd nifer o ychwanegiadau ar ôl hynny. Pan gipwyd Jeriwsalem gan y Croesgadwyr yn 1099, cafodd y mosg ei ddefnyddio fel palas ac eglwys ganddynt, ond cafodd ei adfer fel mosg pan gipiodd Saladin Jeriwsalem. Ychwanegwyd i'r mosg dros y canrifoedd ar ôl hynny. Heddiw, er bod Jeriwsalem dan awdurdod yr Israeliaid, mae'r mosg ei yn aros dan weinyddiaeth y waqf (math o gyngor Islamaidd) Palesteinaidd.

Dan reolau diogelwch presennol llywodraeth Israel, dim ond Palesteiniaid ac Arabiaid dros 50 oed sy'n medru fynd i al-Aqsa, ac mae'r penderfyniad hynny wedi ychwanegu at anniddigrwydd Mwslemiaid yn Israel ei hun ac ar y Lan Orllewinol.

Yr Ail Intifada - Intiffada al-Aqsa[golygu | golygu cod]

Bu i Ail Intifada'r Palesteiniaid gychwyn yn y flwyddyn 2000 wedi i Ariel Sharon, un o weinidogion Llywodraeth Israel (a chyn Gadfridog a Gweinidog Amddiffyn) ac arweinydd plaid asgell dde Iddewig, Likud, ar y pryd (yng nghwmni dirprwyaeth o’i blaid a channoedd o heddlu Israel mewn dillad terfysg) i Fryn y Deml, lle cysegredig i Islamiaid ac Iddewon. Bwriad gweithred Ariel Sharon oedd hawlio sofraniaeth Israel neu Iddewig dros y lle; digwyddodd hyn ar adeg o densiwn uchel iawn ymhlith y poblogaethau oherwydd methiant diweddar trafodaethau Camp David.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]