Mosaïque FM

Oddi ar Wicipedia
Mosaïque FM
Ardal DdarlleduGogledd Tiwnisia
ArwyddairLa radio qui met le feu au .net
Dyddiad Cychwyn7 Tachwedd 2003
PencadlysTiwnis
Perchennog Karthago
Gwefanhttp://www.mosaiquefm.net/

Prif orsaf radio preifat Tiwnisia yw Mosaïque FM (Arabeg موزاييك أف أم). Mae'n darlledu yn yr iaith Arabeg 24 awr y dydd ar gyfer Tiwnis a'r cylch (Tiwnis Fwyaf) yn bennaf ar FM ac mae hefyd ar gael ledled y byd ar y we, yn rhad ac am ddim.

Cafodd ei lawnsio ar 7 Tachwedd 2003. Lleolir ei bencadlys yn ninas Tiwnis, prifddinas Tiwnisia (Immeuble Babel Bloc D, Montplaisir, Tiwnis). Y cyflwynydd cyntaf y cafodd ei lais ei ddarlledu pan agorwyd yr orsaf oedd Nizar Chaari, sydd erbyn heddiw yn gyfrifol am y rhaglenni.

Ceir cymysgedd o adloniant ar y radio, yn rhaglenni sgwrs, cerddoriaeth Arabaidd a gorllewinol, chwaraeon a newyddion, ond gyda'r pwyslais ar gerddoriaeth.

Cyn lawnsio Mosaïque FM dim ond tua 20 y cant o'r boblogaeth oedd yn gwrando ar y radio yn rheolaidd. Erbyn heddiw, yn ôl ffigyrau MédiaScan, mae tua 50 y cant o bobl Tiwnisia yn gwrando yn rheolaidd gyda 75 y cant yn gwrando'n bennaf neu'n unig ar Mosaïque FM. Mae rhan o'r llwyddiant yn ddiau am fod yr orsaf wedi dewis trafod pynciau dadleuol a fu'n tabŵ tan yn ddiweddar, gan gynnig fforwm boblogaidd i bobl ifainc a'r dosbarth canol. Diolch i'r gwasanaeth ar-lein mae'r orsaf radio yn boblogaidd gan Arabiaid yn y Maghreb ac Ewrop hefyd, a dywedir ei bod ymhlith y gorsafoedd radio iaith Arabeg fwyaf eang ei chynulleidfa yn y byd heddiw.[1]

Mae Mosaïque yn perthyn i grŵp busnes Karthago (a enwir ar ôl Carthago), sy'n perchen i Belhassen Trabelsi, brawd Leïla Ben Ali (gwraig ddylanwadol yr Arlywydd Zine el-Abidine Ben Ali).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jamel Arfaoui, « Radio Mosaïque défie les tabous »

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]