Moryd Moray

Oddi ar Wicipedia
Moryd Moray
Mathmoryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.75°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Map

Moryd yng ngogledd-ddwyrain yr Alban sy'n arwain at Fôr y Gogledd yw Moryd Moray[1] (Saesneg: Moray Firth; Gaeleg yr Alban: Linne Mhoireibh). Dyma foryd mwyaf yr Alban. Mae ganddo fwy na 500 milltir (800 km) o arfordir sy'n ffinio â thri awdurdod unedol: Cyngor yr Ucheldir, Moray a Swydd Aberdeen. Mae sawl afon yn llifo i mewn i'r moryd, gan gynnwys Afon Ness, Afon Findhorn ac Afon Spey. Mae yna amryw o morydau llai sy'n gilfachau o Foryd Moray, gan gynnwys Moryd Cromarty a Moryd Dornoch.

Moryd Moray ("Moray Firth" ar y map)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)