Morwyn

Oddi ar Wicipedia
Glasoed neu Ieuenctid (La Jeunesse (1893) gan y Ffrancwr William-Adolphe Bouguereau. Mae'r lliw gwyn wedi bod yn symbol o forwyndod a diniweidrwydd ers canrifoedd.

Y cyflwr o fod heb brofi cyfathrach rywiol yw morwyndod.[1][2] Mae llawer o ddiwylliannau'r byd yn edrych ar forwyndod drwy lygad gwahanol: e.e. anrhydedd, purdeb a diniweitrwydd. Mewn rhai diwylliannau mae bod yn ddi-briod yn gyfystyr â bod yn forwyn. Mae'r gair Cymraeg 'morwyn' yn cyfeirio at fenyw yn unig ond gall 'golli morwyndod' hefyd gyfeirio at fechgyn.

Mae'r gair 'morwyn' hefyd yn golygu gweinyddes mewn plasdy neu dŷ bwyta. Gwas yw'r gair am y gwryw.

Oedran[golygu | golygu cod]

Mae oedran colli morwyndod yn amrywio o wlad i wlad. Mae'r tabl (ar y dde) yn dangosbfod Lloegr a Chymru yn ddwy wlad lle mae pobl ifanc yn colli eu morwyndod yn gynnar iawn. Oed cydsynio yw'r oedran mae'r wlad yn ei gosod mewn deddf, lle mae cael cyfathrach rywiol cyn hynny yn anghyfreithlon. 18 oed yw'r norm, ond mae'n amrywio dipyn go lew. Hyd at y 18g roedd oed gydsynio mor isel â 12 yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.

Holiadur i bobl ifanc 15 oed mewn gwahanol wledydd.[3]
Gwlad Bechgyn (%) Merched (%)
Awstria 21.7 17.9
Canada 24.1 23.9
Croasia 21.9 8.2
Lloegr 34.9 39.9
Estonia 18.8 14.1
Ffindir 23.1 32.7
Gwlad Belg 24.6 23
Ffrainc 25.1 17.7
Gwlad Groeg 32.5 9.5
Hwngari 25 16.3
Israel 31 8.2
Latfia 19.2 12.4
Lithwania 24.4 9.2
Macedonia 34.2 2.7
Yr Iseldiroedd 23.3 20.5
Gwlad Pwyl 20.5 9.3
Portiwgal 29.2 19.1
Yr Alban 32.1 34.1
Slofenia 28.2 20.1
Sbaen 17.2 13.9
Sweden 24.6 29.9
Swistir 24.1 20.3
Wcráin 47.1 24
Cymru 27.3 38.5

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Virginity". Merriam-Webster. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. "Virginity". TheFreeDictionary.com. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2013.
  3. Godeau, Emmanuelle; Nic Gabhainn, Saoirse; Vignes, Ce´line; Ross, Jim; Boyce, Will; Todd, Joanna (Ionawr 2008). "Contraceptive Use by 15-Year-Old Students at Their Last Sexual Intercourse Results From 24 Countries". Archives of Pediatrics & Adolescent Medicine 162 (1). http://www.nuigalway.ie/hbsc/documents/godeau_2008_contraceptive_use_apam_1621_6673.pdf. Adalwyd 14 Ionawr 2012.