Morgan Rhys

Oddi ar Wicipedia
Morgan Rhys
Ganwyd1 Ebrill 1716 Edit this on Wikidata
Cil-y-cwm Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1779 Edit this on Wikidata
Llanfynydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, emynydd Edit this on Wikidata

Athro mewn ysgolion cylchynol ac emynydd oedd Morgan Rhys (1 Ebrill 1716 - 9 Awst 1779).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Efail-fach, Cilycwm, Sir Gaerfyrddin. Bu'n gweithio fel athro cylchynol mewn nifer o bentrefi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion o 1757 hyd 1775. Ceir cyfeiriadau canmoliaethus ato yn adroddiadau'r Welch Piety. Claddwyd ef ym mynwent Llanfynydd ar 9 Awst 1779.

Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o emynau, a hefyd nifer o farwnadau i ffigyrau crefyddol. Ceir ei emynau yng nghasgliadau emynau pob enwad. Yn 2001 cyhoeddodd Gwasg Gregynog argraffiad cain o ddetholiad o'i emynau wedi'u golygu gan D. Simon Evans, gyda darluniau gan Rhiain M. Davies.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Emynau[golygu | golygu cod]

Detholiad o'i emynau o Lyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Golwg o Ben Nebo, ar Wlâd yr Addewid (Bryste, 1755, ail arg Caerfyrddin, 1764)
  • Casgliad o Hymau (Caerfyrddin, 1757)
  • Casgliad o Hymnau etc. (Caerfyrddin, 1760)
  • Golwg ar Ddull y Byd (1767)
  • Golwg ar Ddinas Noddfa (1770)
  • Griddfanau'r Credadyn (1772)
  • Griddfanau Credadyn (llyfr gwahanol), (c. 1774)
  • Y Frwydr Ysprydol (1772-4)

Llyfrau amdano[golygu | golygu cod]

  • Roberts, Gomer Morgan (1951) Morgan Rhys, Llanfynydd (Cyfres yr emynwyr)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]