Mombasa

Oddi ar Wicipedia
Mombasa
Mathdinas, dinas â phorthladd, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,200,000, 1,208,333 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1593 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirSir Mombasa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cenia Cenia
Arwynebedd294.7 ±0.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr50 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau4.05°S 39.67°E Edit this on Wikidata
Map

Ail ddinas Cenia a phrifddinas talaith Pwani yw Mombasa (weithiau Mombassa). Saif ar yr arfordir, yn ne-ddwyrain Cenia. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 665,018, amcangyfrifir ei fod tua 900,000 erbyn 2009.

Saif y ddinas ar ynys, er bod rhai o'r maestrefi ar y tir mawr. Mae'n borthladd pwysig, a hefyd yn ganolfan i dwristiaeth. Nid oes sicrwydd pa bryd y sefydlwyd y ddinas, ond nododd Al-Idrisi yn y 12g ei bod yn ganolfan fasnach bwysig. Galwodd y llynghesydd Tsineaidd Zheng He yma tua 1415, a Vasco da Gama yn 1498.

Marchnad yn Mombasa