Model

Oddi ar Wicipedia
Model benywaidd yn arddangos dillad

Mae model yn berson sy'n gosod ei hun neu'n arddangos ei hun er mwyn celf, ffasiwn neu hysbysebu a chynhyrchion eraill. Nid yw na oed na rhyw yn ffactor hollbwysig - gall model fod yn ddyn neu ddynes neu blentyn - ond ceir mwy o fodelau benywaidd ifanc. Serch hynny, nid yw'r ffin bob amser yn gwbl glir o ran meysydd fel actio, dawnsio neu feimio. Yn gyffredinol, nid yw ymddangos mewn ffilm yn cael ei ystyried yn fodelu, waeth beth yw'r rôl ei hun. Fodd bynnag, disgwylir i fodelau arddangos emosiwn yn eu ffotograffau ac mae nifer o fodelu wedi disgrifio'u hunain fel actorion. Ceir gwahanol fathau o fodelu gan gynnwys glamor, ffasiwn, bicini, celf-fanwl a modelau rhannau o'r corff. Mae rhai modelau yn modelu'n noeth, er mwyn celf neu adloniant. Nid yw pob model yn brydferth: mae modelau cymeriad yn portreu pobl gyffredin neu ddoniol, ac fe'u gwelir gan amlaf mewn gwaith print ac mewn hysbysebion.

Rhai modelau o Gymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Categori:Modelau Cymreig
Chwiliwch am model
yn Wiciadur.