Mochnant

Oddi ar Wicipedia
Map braslun o israniadau Powys

Cantref yn nheyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol oedd Mochnant. Gorwedd y diriogaeth yn ardal Maldwyn, sir Powys, heddiw.

Ffiniai'r cantref â chantref Penllyn, Edeirnion, a Chynllaith i'r gogledd, Mechain a Chaereinion i'r de, a chantref Cyfeiliog (cwmwd Mawddwy) i'r gorllewin. Gorweddai yng nghanol teyrnas Powys gyda llethrau'r Berwyn yn gefn iddo.

Enwir Mochnant yn chwedl Math fab Mathonwy, yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, fel lle mae Gwydion yn aros gyda'r moch hudol ar ei ffordd yn ôl i Wynedd ar ôl eu cael trwy dwyll yn llys Pryderi. Ond mae'n bosibl taw'r gair Cymraeg Canol moch ('buan', 'boreuol') a geir yn yr enw Mochnant yn hytrach na'r anifeiliaid.

Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd gydag Afon Rhaeadr, un o ledneintiau Afon Tanat, yn dynodi'r ffin, sef:

Pan ymranodd yr hen deyrnas yn 1166 yn Bowys Fadog a Powys Wenwynwyn, rhanwyd cantref Mochnant rhwng y ddwy dywysogaeth newydd. Aeth Mochnant Is Rhaeadr yn rhan o Bowys Fadog (ym meddiant Owain ap Madog i ddechrau) ac aeth Uwch Rhaeadr yn rhan o Bowys Wenwynwyn (ym meddiant Owain Cyfeiliog i ddechrau).

Roedd y cantref yn cynnwys Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru. Roedd y prif ganolfannau yn cynnwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Pennant Melangell.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.