Minos

Oddi ar Wicipedia
Minos
Mathcymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth

Brenin ynys Creta ym mytholeg Roeg oedd Minos (Hen Roeg: Μίνως). Roedd yn fab i Zeus ac Ewropa. Rhoddodd ei enw i'r Gwareiddiad Minoaidd.

Roedd yn briod a Pasiphaë, ac roedd ei blant yn cynnwys Ariadne, Androgeus, Deucalion, Phaedra, Glaucus, Catreus ac Acacallis. Dywedir iddo ef a'i frodyr, Rhadamanthys a Sarpedon, gael eu magu gan Asterion (neu Asterius), brenin Creta, a phan fu Asterion farw, olynwyd ef ar yr orsedd gan Minos.

Dywedid ei fod yn byw yn Knossos, dair cenhedlaeth cyn Rhyfel Caerdroea. Cysylltir ef a nifer o chwedlau; y fwyaf adnabyddus yw'r stori am Theseus a'r Minotaur. Roedd Athen yn gorfod gyrru saith dyn ieuanc a saith merch ieuanc i Minos bob blwyddyn fel teyrnged, a byddent yn cael eu bwydo i'r Minotaur, anghenfil oedd yn hanner dyn a hanner tarw, oedd wedi ei genhedlu gan darw ar Pasiphaë, gwraig Minos. Ymunodd Theseus a'r rhai oedd yn cael eu gyrru i Minos un flwyddyn, a chyda chymorth Ariadne, merch Minos, lladdodd y Minotaur.