Minnie Baldock

Oddi ar Wicipedia
Minnie Baldock
Ganwyd20 Tachwedd 1864 Edit this on Wikidata
Bromley Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
llofnod

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Lucy Minnie Baldock (20 Tachwedd 1864 - 10 Rhagfyr 1954). Gydag Annie Kenney, cyd-sefydlodd y gangen gyntaf o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched.[1][2][3]

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Bromley-by-Bow ar 20 Tachwedd 1864. Gweithiodd mewn gwaith llafurus, trwm a phriododd ym 1888. Roedd yr East End, Llundain yn adnabyddus am ei dlodi ac ymunodd y Baldocks â'r Blaid Lafur Annibynnol ar ôl i'r sosialaidd Keir Hardie gael ei ethol yn aelod seneddol ym 1892.

Ymgyrchydd[golygu | golygu cod]

Gweithiodd gyda Charlotte Despard a Dora Montefiore a chymerodd gyfrifoldeb dros y Gronfa Diweithdra leol a ddefnyddiwyd i liniaru caledi eithafol.[4] Ni chaniatawyd i fenywod fod yn aelodau seneddol, ond dewisodd yr ILP hi fel eu hymgeisydd i eistedd ar Fwrdd Gwarcheidwaid West Ham (West Ham Board of Guardians) yn 1905.[5][5]

Baldock ac Annie Kenney sefydlodd y gangen gyntaf o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, yn Canning Town, a hynny yn 1906. Trefnodd y ddwy fenyw nifer o gyfarfodydd yn Neuadd Gyhoeddus Canning Town. Mynychodd Baldock gyfarfod cyn-etholiadol o'r Rhyddfrydwyr ar 21 Rhagfyr 1905, yn y Royal Albert Hall wedi ei gwisgo fel 'morwyn' i Annie Kenney a wisgodd gôt ffwr. Eisteddai'r ddwy mewn bocs, yn agos i'r llwyfan, cyn i Kenney hongian baner dros ymyl y bocs, gyda'r geiriau 'Pleidleisiau i Fenywod!', a chan weiddi datganiadau ffeministaidd a chreu aflonyddwch.[3]

Arestiwyd Baldock ar 23 Hydref 1906, ynghyd â Nellie Martel ac Anne Cobden Sanderson, am ymddygiad afreolus yn ystod agoriad y Senedd Lloegr.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858-1966, 1973-1995
  2. Crawford, Elizabeth (2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Routledge. tt. 26–27. ISBN 1135434026.
  3. 3.0 3.1 Jackson, Sarah (12 Hydref 2015). "The suffragettes weren't just white, middle-class women throwing stones". The Guardian. Cyrchwyd 23 Mawrth 2018.
  4. Diane Atkinson, Diane (8 Chwefror 2018). Rise Up Women!: The Remarkable Lives of the Suffragettes. London: Bloomsbury Publishing. tt. 31–2, 45–, 79, 90, 94, 114, 142, 213, 259. ISBN 978-1-4088-4406-9.CS1 maint: date and year (link)
  5. 5.0 5.1 "Minnie Baldock". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-23.