Michael Aloni

Oddi ar Wicipedia
Michael Aloni
Ganwydמיכאל אלוני Edit this on Wikidata
30 Ionawr 1984 Edit this on Wikidata
Tel Aviv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael, Yr Aifft, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu, ysgrifennwr, model, actor teledu, sgriptiwr Edit this on Wikidata

Ganed Michael Aloni (Hebraeg: מיכאל אלוני; enw llawn Michael Mark Aloni, sillefir hefyd fel Alony) ar 30 Ionawr 1984) yn Tel Aviv, Israel. Mae'n actor, cyfarwyddwr a chyflwynydd teledu Israeli.

Mae'n adnabyddus am chwarae un o'r brif rannau yn y gyfres ddrama am deulu Hasidig, Shtisel,[1] ac yn Out in the Dark [2] ac un o'r brif rannau fel 'Himmler' yn y gyfres am griw o ffrindiau sy'n gyn-filwyr, When Heroes Fly, a gynhyrchwyd gan Keshet Media Group. Yn Ebrill 2018 enillodd y gyfres y wobr 'Cyfres Orau' yn Canneseries ac mae wedi ei chomisiynu ar gyfer ail dymor.[3] Mae Aloni hefyd yn cyflwyno'r gyfres realiti boblogaidd ar deledu,The Voice ישראל (The Voice Israel) - cystadleuaeth ganu agored.[4]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Aloni yn fab i fam oedd yn gyfreithwraig a thad oedd yn gyfrifydd. Yn ystod ei gyfnod Gwasanaeth Cenedlaethol gyda IDF gwasanaethodd fel rhan o Gorfflu Addysg Marva. Astudiodd actio yn Stiwdio Actio Nissan Nativ rhwng 2006-2009. Mae hefyd wedi ymddangos mewn sawl ymgyrch hysbysebu fel model.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2005–2007 HaShminiya Adam Halevi Ymddangosiadau rheolaidd
2006 Out of Sight Tomer y Lifeguard* Teitl wreiddiol: Lemarit Ain
Ha-Alufa Eddy Franco 2 bennod
2009 Ruin Ben
2010 Infiltration Benny Teitl wreiddiol: Hitganvut Yehidim
2011 Policeman Nathanael Teitl wreiddiol: Ha-shoter
2012 Keshet Beanan Ffilm fer
Out in the Dark Roy Schaffer
2013 A Place in Heaven Frenchie Teitl wreiddiol: Makom beGan Eden
2013-2016 Shtisel Akiva Shtisel Un o'r prif gymeriadau
2014 Keep it Cool Uri Ffilm fer
Shovrei Galim Noam 2 bennod
2016 Antenna
Lucid Ffilm fer
2017 Naor's Friends Raz Hita Pennod #4.10
Metim LeRega Lev Alexander Pennod #2.1
And Then She Arrived Dan Teitl wreiddiol: VeAz Hi Hegiaa
2018 Virgins Newyddiadurwr
When Heroes Fly Dotan 'Himler' Friedman Ymddangosiad rheolaidd
2019 Happy Times Michael ôl-gynhyrchu

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]