Mesosöig

Oddi ar Wicipedia
Yr Oes Mesosöig
251 - 65.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Prif ddigwyddiadau yn y Mesosöig
Graddfa: Miliwn o flynyddoedd cyn y presennol.

Israniad o linell amser ddaearegol ym maes daeareg yw'r gorgyfnod Mesosöig a amcangyfrifir ei fod rhwng 251-66 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Caiff hefyd ei alw'n Oes yr Ymlusgiaid, ymadrodd a ddefnyddiwyd gyntaf yn y 19g gan y Paleontolegydd Gideon Mantell a gredodd fod y gorgyfnod Mesosöig wedi'i ddomineiddio gan ymlusgiaid fel yr Igwanodon, y Megalosawrws a'r Plesiosawrws a'r hyn a elwir heddiw yn Pseudosuchia.[1]

Mae'n un o dri gorgyfnod yn yr eon Phanerosöig, a ragflaenir gan y Paleosöig ("bywyd y cynfyd") ac a ddilynir gan y Cenosöig ("bywyd newydd"). Caiff ei isrannu'n dair Cyfnod: y Triasig, y Jwrasig a'r Cretasaidd a gaiff eu hisrannu, yn eu tro, yn epocau.

Yn ystod y gorgyfnod Mesosöig ffurfiwyd y cyfandiroedd - o un tamed o dir a elwir yn Pangaea.

Nodir man cychwyn y Mesosöig gan ddifodiad aruthrol (a elwir weithiau: "Y Marw Mawr", neu'n P–Tr) pan daeth 96% o holl rywogaethau morol i ben a 70% o rywogaethau tirol.[2] Oherwydd y collwyd cymaint o rywogaethau'r Ddaear (57% o bob teulu ac 83% o bob genws, araf iawn yr adferwyd bywyd ar y Ddaear.[3] Yn ystod y Mesosöig gwelwyd y gweithgareddau tectonig cyntaf, newid aruthrol yn yr hinsawdd a chynydd mewn esblygiad. Bu'r gorgyfnod hwn hefyd yn dyst i hollti'r tamed o dir a elwir yn Pangaea a chreu cyfandiroedd.

Yr enw[golygu | golygu cod]

Tarddiad y gair "Mesosöig" yw'r Hen Roeg meso- (μεσο-) sef "rhwng" a zōon (ζῷον) sef "anifail" neu "rywbeth byw".[4] Ei ystyr felly yw "bywyd yn y canol".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dean, Dennis R. (1999). Gideon Mantell and the Discovery of Dinosaurs. Cambridge University Press. tt. 97–98. ISBN 0521420482.
  2. Benton M J (2005). When life nearly died: the greatest mass extinction of all time. London: Thames & Hudson. ISBN 0-500-28573-X.
  3. "It Took Earth Ten Million Years to Recover from Greatest Mass Extinction". ScienceDaily. 27 Mai 2012. Cyrchwyd 28 Mai 2012.
  4. "Mesozoic". Online Etymology Dictionary.