Meredydd Evans

Oddi ar Wicipedia
Meredydd Evans
Ganwyd9 Rhagfyr 1919 Edit this on Wikidata
Llanegryn Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2015 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcerddolegydd, ymgyrchydd, canwr Edit this on Wikidata
ArddullCanu gwerin Edit this on Wikidata
PriodPhyllis Kinney Edit this on Wikidata

Roedd Dr Meredydd Evans (9 Rhagfyr 191921 Chwefror 2015) yn gasglwr, golygydd, hanesydd a chanwr gwerin Cymraeg.

Ganwyd Meredydd Evans (neu Merêd, fel y'i gelwid) yn Llanegryn ym Meirionnydd, a chafodd ei fagu yn Nhanygrisiau[1] Roedd ei fam yn canu caneuon gwerin Cymraeg iddo pan oedd e'n blentyn.[2] Datblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor gyda Mrs. Enid Parry. Yn 1954 recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i Folkways Records yn Efrog Newydd pan oedd e'n astudio Ph.D. mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Princeton. Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, golygodd Merêd a'i wraig Phyllis Kinney dri chasgliad o ganeuon Cymraeg.[3]

Rhwng 1963 ac 1973 roedd yn Bennaeth Adloniant Ysgafn yn BBC Cymru, ac yn gynhyrchydd nifer o raglenni poblogaidd fel Lloffa, Fo a Fe, Ryan a Ronnie a Hob y Deri Dando.

Yn 2012, ymddangosodd Merêd ar yr albwm Bethel gan Gai Toms, yn canu deuawd o'r enw Cân y Dewis [4]

Bu farw yn 95 oed ar 21 Chwefror 2015.

Triawd y Coleg[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Hume, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1985)
  • Merêd: Detholiad o Ysgrifau, gol. Ann Ffrancon a Geraint H. Jenkins (Gwasg Gomer, 1994)
  • Canu'r Cymry 2 gyfrol. (Welsh Folk-Song Society)

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Merêd: Dyn ar Dân, gol. Eluned Evans a Rocet Arwel Jones (Y Lolfa, 2016)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meic Stephens (ed.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1997).
  2. Meredydd Evans, Welsh Folk-Songs: Sung by Meredydd Evans (New York:Folkways Records); adalwyd 30/06/2012
  3. Sain (Recordiau) Cyf. (Caernarfon, Wales)
  4. "Gwefan gaitoms.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-01. Cyrchwyd 2013-01-04.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]